Awdures Ffrengig o Wlad Belg yw Amélie Nothomb (sy'n enw-awdur) a anwyd 9 Gorffennaf 1966 ac sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a sgriptiwr. Treuliodd llawer o'i phlentyndod yn Asia.

Amélie Nothomb
FfugenwAmélie Nothomb Edit this on Wikidata
GanwydFabienne Claire Nothomb Edit this on Wikidata
9 Gorffennaf 1966 Edit this on Wikidata
Etterbeek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Alma mater
  • Université libre de Bruxelles Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHygiene and the Assassin, The Character of Rain, Tokyo Fiancée, The Book of Proper Names, Loving Sabotage, Fear and Trembling, The Life of Hunger, Antichrista, Attentat, Life Form, Sulphuric Acid, Péplum, The Stranger Next Door, The Enemy's Cosmetique, Human Rites, Soif, Q108273219 Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer Edit this on Wikidata
Mudiadpostmodern literature Edit this on Wikidata
TadPatrick Nothomb Edit this on Wikidata
PerthnasauCharles-Ferdinand Nothomb, Jean-Baptiste Nothomb, Paul Nothomb Edit this on Wikidata
LlinachNothomb family Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd Urdd y Coron, Gwobr René-Fallet, Gwobr Alain-Fournier, Prix littéraire de la vocation, Gwobr Jacques-Chardonne, Prix de Flore, Prif Wobr Jean-Giono, Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig, Gwobr Jean Giono Jury, Roland de Jouvenel Prize, Gwobr Renaudot Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.amelie-nothomb.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Fabienne-Claire Nothomb yn Etterbeek, Japan ar 9 Gorffennaf 1966 i ddiplomat o Wlad Belg. Symudodd pan oedd yn 5 oed ac er hynny mae wedi byw yn: Tsieina, Efrog Newydd, Bangladesh, Myanmar, a gwledydd Prydain.[1][2][3][4]

Mae'n awdures doreithiog iawn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Hygiène de l'assassin (cyf Saesneg: Hygiene and the Assassin), pan oedd yn 26 oed, ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi un nofel y flwyddyn. Mae ei nofelau ymhlith y prif werthiannau llenyddol, ac wedi eu cyfieithu i lawer o ieithoedd; o'r herwydd fe'i anrhydeddwyd gyda gwobr y Brenin Philippe o Wlad Belg. Enillodd ei nofel Stupeur et tremblements 'Wobr Fawr y Nofel' gan yr Academi Ffrengig yn 1999, ac yn 2015, cafodd ei hethol yn aelod o Academi Frenhinol Iaith a Llenyddiaeth Ffrengig Gwlad Belg.

Ymhlith y gwaith pwysig nodedig arall yr ysgrifennodd y mae: Hygiène de l'assassin (1992), Le Sabotage amoureux (1993), Antichrista (2003), Attentat, Acide sulfurique (2005) a Les prénoms épicènes (2018).[5]

Tra yn Japan, mynychodd Nothomb yr ysgol leol gan ddysgu Siapanaeg. Pan oedd hi'n bump oed, symudodd y teulu i Tsieina. Cyfeiriodd yn Stupeur et tremblements mai gadael Japan oedd y “gwahanu gwaethaf posib i mi”. Astudiodd ieitheg yn y Université Libre de Bruxelles. Ar ôl gorffen ei hastudiaethau, dychwelodd Nothomb i Japan i weithio mewn cwmni Japaneaidd yn Tokyo. Mae ei phrofiad o'r amser hwn yn cael ei fynegi yn Stupeur et tremblements.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [6][7][8][9]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cadlywydd Urdd y Coron (2008), Gwobr René-Fallet (1993), Gwobr Alain-Fournier (1993), Prix littéraire de la vocation (1993), Gwobr Jacques-Chardonne (1993), Prix de Flore (2007), Prif Wobr Jean-Giono (2008), Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig (1999), Gwobr Jean Giono Jury (1995), Roland de Jouvenel Prize (1996), Gwobr Renaudot (2021)[10][11][12] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122606987. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122606987. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Amélie Nothomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Amélie Nothomb". ffeil awdurdod y BnF. Cyrchwyd 20 Medi 2018. https://modernlanguages.sas.ac.uk/research-centres/centre-study-contemporary-womens-writing/languages/french/am%C3%A9lie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 21 Mai 2019. https://www.discogs.com/artist/1649645-Am%C3%A9lie-Nothomb. https://www.proquest.com/openview/f5edeb1ac542436e634a99afa37af2c8/1?pq-origsite=gscholar.
  4. Man geni: Goodreads. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2018.
  5. "Institute of Modern Languages". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-28. Cyrchwyd 2021-02-19.
  6. Rhagddodiad anrhydeddus: http://www.ejustice.just.fgov.be/cgi/article_body.pl?numac=2015015097&caller=list&article_lang=F&pub_date=2015-07-17&language=fr.
  7. Rhagddodiad anrhydeddus: http://www.ejustice.just.fgov.be/cgi/article_body.pl?numac=2015015097&caller=list&article_lang=F&pub_date=2015-07-17&language=fr.
  8. Aelodaeth: http://www.arllfb.be/composition/membres/nothomba.html. dyddiad cyrchiad: 31 Hydref 2015.
  9. Anrhydeddau: http://www.ejustice.just.fgov.be/mopdf/2008/07/14_1.pdf. http://www.academie-francaise.fr/amelie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 27 Hydref 2017. https://www.franceculture.fr/litterature/mohamed-mbougar-sarr-prix-goncourt-2021-pour-la-plus-secrete-memoire-des-hommes. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2021.
  10. http://www.ejustice.just.fgov.be/mopdf/2008/07/14_1.pdf.
  11. http://www.academie-francaise.fr/amelie-nothomb. dyddiad cyrchiad: 27 Hydref 2017.
  12. https://www.franceculture.fr/litterature/mohamed-mbougar-sarr-prix-goncourt-2021-pour-la-plus-secrete-memoire-des-hommes. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2021.