Y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd

Cymdeithas ddysgedig a'r sefydliad gwyddonol hynaf yn Unol Daleithiau America yw'r Gymdeithas Athronyddol Americanaidd (Saesneg: American Philosophical Society, APS) a sefydlwyd ar gynnig Benjamin Franklin yn Philadelphia, Pennsylvania, ym 1743.

Lleolir pencadlys y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd—y Neuadd Athronyddol (adeiladwyd 1785–89)—ym Mharc Hanesyddol Cenedlaethol Annibyniaeth yn Center City, Philadelphia, sef canolfan busnes y ddinas. Cedwir eiddo'r Gymdeithas yn Neuadd y Llyfrgell, a godwyd ym 1958 fel replica o hen adeilad y Library Company of Philadelphia, a fu yn yr un safle o 1798 hyd at y 1880au. Mae'r llyfrgell yn cynnwys rhyw saith miliwn o lawysgrifau, a chasgliadau helaeth o lyfrau am y gwyddorau a diwylliant yr Unol Daleithiau.[1] Mae'r Gymdeithas hefyd yn meddu ar Neuadd Benjamin Franklin, lle cynhelir y mwyafrif o gyfarfodydd a chynadleddau'r Gymdeithas, a Neuadd Richardson sydd yn gartref i'r Consortiwm ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth.

Cyhoeddir sawl cyfnodolyn a chyfres ysgolheigaidd gan y Gymdeithas, gan gynnwys Transactions of the APS, sef pump traethawd monograffig y flwyddyn; Memoirs of the APS, cyfres o lyfrau monograffig; Proceedings of the APS, cyfnodolyn chwarterol sydd yn cynnwys papurau a ddarllenwyd yn y cyfarfodydd chwe-misol a chofiannau aelodau'r Gymdeithas yn ogystal ag erthyglau gan awduron nad yw'n aelodau; yr APS Yearbook; a'r cylchlythyr APS News.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) American Philosophical Society. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.

Dolenni allanol golygu