Benjamin Franklin

ysgrifennwr, gwleidydd, diplomydd (1706-1790)

Roedd Benjamin Franklin (17 Ionawr 1706 (H.A. 6 Ionawr) 170517 Ebrill 1790) yn un o sefydlwyr Unol Daleithiau'r America. Roedd yn bolymath cydnabyddedig, ac yn argraffwr ac awdur blaenllaw, yn ogystal â bod yn ddychanwr, sylwebydd gwleidyddol, gwleidydd, gwyddonydd, dyfeisiwr a diplomat. Fel gwyddonydd, roedd yn ffigwr blaenllaw yn hanes ffiseg am ei ddarganfyddiadau a damcaniaethau ynglŷn â thrydan. Dyfeisiodd rhoden luched, deuffocal, y stof Franklin a'r gwydr 'armonica'. Ef sefydlodd y llyfrgell fenthyg gyntaf yn yr Unol Daleithiau a'r gwasanaeth tân cyntaf Pennsylvania. Roedd yn un o genfogwyr cynharaf undod ymerodraethol, ac fel sylwebydd ac ymgyrchydd gwleidyddol, cefnogodd y syniad o'r genedl Americanaidd. Fel diplomat yn ystod y Chwyldro Americanaidd, sicrhaodd gefnogaeth Ffrainc a chynorthwyodd yn y broses o wneud yr Unol Daleithiau'n annibynnol.

Benjamin Franklin
FfugenwSilence Dogood Edit this on Wikidata
Ganwyd17 Ionawr 1706 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1790 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBritish America, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyhoeddwr, argraffydd, damcaniaethwr gwleidyddol, postfeistr, dyfeisiwr, gweithredydd gwleidyddol, gwladweinydd, diplomydd, diletant, polymath, chwaraewr gwyddbwyll, cynllunydd, cerddor, athronydd gwleidyddol, hunangofiannydd, llyfrgellydd, newyddiadurwr, economegydd, ffisegydd, golygydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad yr Unol Daleithiau i Ffrainc, llysgennad yr Unol Daleithiau i Sweden, Postfeistr Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Llefarydd Tŷ'r Cynrychiolwyr yn Pennsylvania, Llywydd Cyngor Gweithredol Goruchaf Pennsylvania, aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn Pennsylvania Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Pennsylvania Edit this on Wikidata
TadJosiah Franklin Edit this on Wikidata
MamAbiah Folger Edit this on Wikidata
PriodDeborah Read Franklin Edit this on Wikidata
PlantWilliam Franklin, Francis Folger Franklin, Sarah Franklin Bache Edit this on Wikidata
PerthnasauAnn Smith Franklin Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Copley, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
llofnod
Franklin, 1825

Ystyrir Franklin fel un o brif sylfaenwyr y gwerthoedd craidd a'r cymeriad sydd gan yr Unol Daleithiau heddiw. Roedd ganddo werthoedd Piwritanaidd o waith caled, addysg, naws gymdeithasol, sefydliadau hunan-lywodraethol a'i wrthwynebiad i awdurdodaeth gwleidyddol a chrefyddol am y credai mai gwyddoniaeth ac agweddau goddefol oedd y ffordd i hapusrwydd. Yng ngeiriau Henry Steele Commager, "Yng nghymeriad Franklin, daeth gwerthoedd Piwritanaidd heb y gwendidau i'r amlwg, y Goleudigaeth heb ei wrês."[1] I Walter Isaacson, golygai hyn mai Franklin oedd, "yr Americanwr mwyaf medrus o'i gyfnod a'r mwyaf dylanwadol o ran llunio'r math o gymdeithas y byddai America yn datblygu i fod."[2]

Daeth Franklin yn olygydd papur newydd, argraffwr a masnachwr yn Philadelphia. Gwnaeth lawer iawn o arian drwy ysgrifennu a chyhoeddu Almanac Richard Dlawd a'r Pennsylvania Gazette. Ymddiddorai Franklin mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a chafodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol am ei arbrofion enwog. Chwaraeodd rôl flaenllaw yn sefydlu Prifysgol Pennsylvania a Choleg Franklin & Marshall College a chaoff ei ethol yn lywydd cyntaf y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd. Ystyriwyd Franklin yn arwr cenedlaethol pan arweiniodd ymgyrch i'r Senedd er mwyn gwaredu'r Ddeddf Stamp amhoblogaidd. Fel diplomat dawnus, cawsai ei edmygu gan y Ffrancwyr pan oedd yn weinidog Americanaidd i Baris ac roedd yn ffigwr amlwg yn natblygiad perthynas Ffrainc a'r Unol Daleithiau. O 1775 tan 1776, Franklin oedd y Postfeistr Cyffredinol o dan y Gynghrair Cyfandirol ac o 1785 tan 1788 ef oedd Llywydd Uwch Gyngor arbennig Pennsylvania. Tua diwedd ei fywyd, daeth yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn caethwasiaeth.

Yn sgîl ei fywyd lliwgar, ei gasgliadau gwyddonol a'i gyrhaeddiadau gwleidyddol, yn ogystal â'i statws fel un o sefydlwyr mwyaf dylanwadol yr Unol Daleithiau, anrhydeddir Franklin ar arian yr Unol Daleithiau, llongau rhyfel, fel enw nifer o drefi, siroedd, sefydliadau addysgol a chwmnïau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Isaacson 2003, td. 491
  2. (Saesneg) Isaacson 2003, td. 492