Amgoed
cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru
Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Amgoed. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Dyfed |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8445°N 4.6363°W |
Gorweddai Amgoed yng ngogledd-orllewin Cantref Gwarthaf. Roedd yn ffinio ag Efelffre i'r de, cantref Daugleddau i'r gorllewin, cantref Cemais i'r gogledd, rhan o gantref Emlyn a cwmwd Elfed i'r dwyrain, a chwmd Peuliniog i'r de, gyda'r ddau olaf yn rhan o Gantref Gwarthaf ei hun.
Prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol oedd Henllan Amgoed.