Elfed (cwmwd)
cwmwd yng Nghantref Gwarthaf, Dyfed
Cwmwd yng Nghantref Gwarthaf, Dyfed, oedd Elfed. Bu'n rhan o hen deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth.
Math |
cwmwd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Cantref Gwarthaf ![]() |
Sir |
Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gerllaw |
Afon Gwili ![]() |
Yn ffinio gyda |
Derllys, Ystlwyf, Peuliniog, Emlyn Is Cuch, Emlyn Uwch Cuch, Mabudrud, Gwidigada ![]() |
Cyfesurynnau |
51.899°N 4.332°W ![]() |
![]() | |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Elfed.
Gorweddai ar lannau gorllewinol Afon Gwili yng ngogledd-ddwyrain y cantref gan ffinio â chymydau Derllys, Ystlwyf a Peuliniog yn y cantref hwnnw, i'r de, a gydag Emlyn Is Cuch ac Emlyn Uwch Cuch i'r gogledd, a chymydau Mabudrud a Gwidigada yn y Cantref Mawr a chantref Chantref Cydweli i'r dwyrain. Ei ganolfan bwysicaf oedd Cynwyl Elfed.
Yn y 13g fe'i cyplyswyd â Derllys a Gwidigada gan ffurfio felly ran bwysig o'r Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach.