Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Peuliniog. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn bennaf yn Sir Gaerfyrddin.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Gorweddai Peuliniog yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cantref Gwarthaf. Roedd yn ffinio ag Efelffre ac Amgoed i'r gorllewin, rhan o gantref Emlyn i'r gogledd, cymydau Elfed ac Ystlwyf i'r dwyrain, a chwmd Talacharn i'r de, gyda'r tri olaf yn rhan o Gantref Gwarthaf ei hun.

Prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol oedd Sanclêr, a ddaeth yn ganolfan strategol bwysig i'r Normaniaid yn ne-orllewin Cymru.

Yn bwysicach o safbwyt Cymreig oedd y ffaith fod clas hynafol yr Hendy-gwyn ar Daf yn gorwedd ym Mheuliniog. Dan nawdd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, datblygodd abaty Sistersaidd y Tŷ Gwyn i fod yn ganolfan grefyddol a diwylliannol fawr; oddi yno sefydlwyd canghennau Abaty Ystrad Fflur, Abaty Ystrad Marchell ac Abaty Cwm-hir. Claddwyd y bardd Dafydd Nanmor yn y Tŷ Gwyn.

Gweler hefyd golygu