Amgueddfa Archaeoleg Gaza

Mae Amgueddfa Archaeoleg Gaza (Arabeg: المتحف‎; Al Mat'haf, "Yr Amgueddfa") neu Tŷ Diwylliannol Hamdden AlMath'af, a agorwyd i'r cyhoedd yn hydref 2008 yn Gaza, Palesteina.[1] Mae'r Amgueddfa yn fwyty, yn westy, yn ganolfan gynadledda ac yn amgueddfa dan berchnogaeth breifat, ac mae'n gartref i hynafiaethau a ddarganfuwyd yn Llain Gaza o gyfnodau hanesyddol amrywiol.[2]

Amgueddfa Archaeoleg Gaza
Enghraifft o'r canlynolamgueddfa, gwesty, canolfan gynadledda Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
LleoliadDinas Gaza Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Gaza Edit this on Wikidata

Amgueddfa golygu

Mae gan yr amgueddfa gasgliad o 350 o arteffactau.[2] Maent yn dyddio mor bell yn ôl â'r Oes Efydd (3500 CC).  Mae'r rhain yn cynnwys offer, colofnau, motiffau, darnau arian, gwydr a chrochenwaith o'r cyfnodau Rhufeinig a Bysantaidd, y cyfnod Islamaidd, cyfnod y Croesgadwyr, ac i'r oes fodern, hyd at weinyddiaeth yr Aifft o'r Llain Gaza, a ddaeth i ben yn 1967. Mae pob arddangosfa'n cynnwys esboniadau o'r arteffactau mewn sawl iaith, wedi'u cynllunio ar gyfer arbenigwyr a lleygwyr fel ei gilydd, er nad oes unrhyw un o'r arteffactau sydd i'w gweld ar wefan yr amgueddfa wedi'u nodi na'u dyddio.[1] Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback.

Yn ôl cyfarwyddwr yr amgueddfa, Jawdat N. Khoudary, "Y syniad yw dangos ein gwreiddiau dwfn o lawer o ddiwylliannau yn Gaza… Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli i'n gwareiddiad yn y gorffennol fod yn un cyfoethog a da. Mae Israel cyfreithloni ei hanes. Rydyn ninnau hefyd."[3]

Nid oes gan Gaza gyfraith sy'n ei gwneud archeoleg-achub yn ofynnol ee pan fo adeiladwyr yn digwydd taro ar arteffactau archeolegol. Fel perchennog cwmni adeiladu, mae Khoudary yn cyfarwyddo'i weithwyr i arbed beth bynnag maen nhw'n ei gloddio fel y gallwn ei archwilio a gwarchod ein trysorau mewn amgueddfeydd. Mae hefyd yn talu pysgotwyr sy'n dod â gwrthrychau diddorol a hynafol iddo.[3]

Mae'r New York Times wedi disgrifio adeilad yr amgueddfa, sydd wedi'i wneud yn rhannol o gerrig a adferwyd o hen dai, hen gysylltiadau rheilffordd, colofnau marmor a ddarganfuwyd gan bysgotwyr a gweithwyr adeiladu Gaza, fel adeilad "syfrdanol".[3]

Noddwyd yr amgueddfa o'r cychwyn gan UNESCO, a bwrdd o ymddiriedolwyr Palesteinaidd.  Mae'n derbyn cefnogaeth wyddonol a thechnegol gan Is-adran Amgueddfeydd dinas Genefa.[4] O 2010 ymlaen roedd yn eiddo preifat.[2]

Mae rhai o arddangosfeydd yr amgueddfa yn cael eu sensro gan lywodraeth Hamas -led Gaza ee Aphrodite, gyda gwisg rhy ddadlennol, delweddau o dduwiau hynafol eraill a lampau olew yn cynnwys menorah.[3]

Gweler hefyd golygu

  • Rhestr o amgueddfeydd yn nhiriogaethau Palestina

Cyfeiriadau golygu

  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-11. Cyrchwyd 2010-08-10.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 "Al-Mathaf a Proud Tribute to Gaza’s Past and Future," Archifwyd 2012-03-18 yn y Peiriant Wayback. Sami Abdel-Shafi, Awst 2010, This Week in Palestine.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Museum Offers Gray Gaza a View of Its Dazzling Past, Ethan Bronner, New York Times, 25 Gorffennaf 2008.
  4. Gaza at the Crossroad of Civilizations Archifwyd 2015-09-07 yn y Peiriant Wayback..

Dolen allanol golygu