Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

amgueddfa diwydiannol a morwrol yn Abertawe

Canolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar fywyd morwrol Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Saesneg: National Waterfront Museum). Fe'i lleolir yn Abertawe ac mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Mae hefyd yn Fan Angoru ERIH, yr European Route of Industrial Heritage.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mathamgueddfa forwrol, amgueddfa genedlaethol, amgueddfa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2005 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmgueddfa Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa Forwrol a Diwydiannol Edit this on Wikidata
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6164°N 3.9386°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganAmgueddfa Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae'r adeilad newydd wedi ei adeiladu o lechi a gwydr ac wedi ei gyfuno â hen adeilad warws rhestredig ar Radd II (bu gynt yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe). Mae'r amgueddfa newydd yn delio gyda hanes y Chwyldro Diwydiannol gan gyfuno eitemau hanesyddol o bwys gyda thechnolegau cyfoes megis sgrîn gyffwrdd a systemau cyflwyno amlgyfrwng. Dyluniwyd yr adeiad a'r arddangosfa gan Wilkinson Eyre a Landesign; Davis Langdon oedd rheolwr y cynllun.

Dechreuodd y syniad ar gyfer yr amgueddfa ddod i'r fei mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn Ebrill 1998, a derbyniwyd arian gan Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri ymysg eraill. Agorwyd yr amgueddfa'n swyddogol yn Hydref 2005, mewn seremoni a fynychwyd gan nifer o enwogion Cymreig megis Gareth Edwards a'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan. Dywed rhai fod y datblygiad yn dwyn sylw oddi ar canol y ddinas, sydd wedi dioddef dirywiad economaidd ers ddechrau'r 1980au.[1]

Gwnaethpwyd yr Amgueddfa yn lle i gynnal priodasau ar 15 Rhagfyr 2005.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Split opinions on city makeover BBC 18 Hydref 2005
  2. [1] Archifwyd 2007-09-05 yn y Peiriant Wayback. Datganiad i'r wasg ar wefan yr Amgueddfeudd.

Dolenni allanol golygu