Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Swdan neu Swdan (hefyd Sudan neu Siwdan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, De Swdan i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tsiad i'r gorllewin a Libia i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad.

Sudan
Emblem of Sudan.svg
Flag of Sudan.svg
Arwyddair النصر لنا Edit this on Wikidata
Math gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Prifddinas Khartoum Edit this on Wikidata
Poblogaeth 40,533,330 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
Anthem Nahnu Jund Allah Jund Al-watan Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Abdalla Hamdok Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Gogledd Affrica Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Swdan Swdan
Arwynebedd 1,886,068 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda De Swdan, Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Ethiopia, Eritrea, Yr Aifft, Libia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bir Tawil Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 15°N 32°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol National Legislature Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Chairman of the Transitional Military Council Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Abdel Fattah al-Burhan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of Sudan Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Abdalla Hamdok Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 117,488 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 2,898 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Sudanese pound Edit this on Wikidata
Wrth gefn 177,933,851 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 15 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 4.353 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.502 Edit this on Wikidata
Am y rhanbarth, gweler Sudan (rhanbarth).

HanesGolygu

 
Cerfddelw brenin Nubia.

Hanes cynnar SwdanGolygu

Hyd at ddechrau'r 5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'r Ymerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abyssinia.

Teyrnasoedd CristnogolGolygu

Erbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle Khartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora, ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'r Efengyl Gristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid eglwys Goptig yr Aifft.

Dyfod IslamGolygu

Wedi sawl ymgais aflwyddianus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.

Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohonni.

Teyrnas SinnarGolygu

Yn y 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.

Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885Golygu

Yn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Otomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.

Gwrthryfel MahdaiddGolygu

Ysgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Swdan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.