Un o egwyddorion cyfiawnder yw amhleidioldeb sy'n dynodi'r ansawdd neu'r cyflwr o fod heb duedd a rhagfarn.[1] Yn ei ystyr gyffredinol, ffurfiolaidd, mae'n well ei ddiffinio yn nhermau negyddol: priodwedd o ddewis a wneir gan weithredwr heb i nodweddion amherthnasol yr opsiynau ddylanwadu ar y broses benderfynu.[2] Dibynna'r nodweddion dan sylw ar y cyd-destun: er enghraifft mae'n rhaid ystyried sgiliau cyfrifiadurol wrth benodi rhywun i swydd rhaglennydd, ond nid yw'n addas i hil neu ryw y person gael effaith ar y penderfyniad. Yn y gyfraith a'r byd gwleidyddol, ymdrechir i wneud amhleidioldeb yn nodwedd hanfodol o'r system gyfiawnder ac wrth orfodi'r gyfraith, ac yn y broses ddemocrataidd a'r holl drefnau gweinyddol.

Amhleidioldeb
Enghraifft o'r canlynolrhinwedd Edit this on Wikidata

Mewn nifer o gyd-destunau moesegol, gwelir ymddygiad amhleidiol yn nodwedd o foesoldeb. Er ystyrir amhleidioldeb yn rhinwedd yn gyffredinol, ni welir gan y moesegydd yn gysyniad positif ac unedol yn unig. Er enghraifft, fel rheol mae addewidion a rhwymedigaethau yn cael y flaenoriaeth ar amhleidioldeb pur. Mae athronwyr hefyd yn trafod amhleidioldeb a phleidioldeb epistemig, sy'n ystyried y cysyniadau hyn mewn cyd-destun perthnasau agos.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  amhleidioldeb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Impartiality" yn y Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.