Mae amiodaron yn feddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio i drin nifer o gyflyrau sy'n achosi rhythm calon annormal. Yn y DU mae'n cael ei ddosbarthu gan gwmni Sanofi o dan yr enw Cordarone x[1]. Mae ar gael ar ffurf tabled fel cyffur generig.[2] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₅H₂₉I₂NO₃.

Amiodaron
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathantiarrhythmic agent, benzofurans Edit this on Wikidata
Màs645.024 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₅h₂₉i₂no₃ edit this on wikidata
Enw WHOAmiodarone edit this on wikidata
Clefydau i'w trinArhythmia'r galon, supraventricular tachycardia, ffibriliad fentriglaidd, clefyd y galon, atrial flutter, ffibriliad atrïaidd, ventricular tachycardia edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Datblygwyd amiodarone gyntaf ym 1961 gan ddod i ddefnydd meddygol ym 1962 ar gyfer poen y frest a gredir ei fod yn gysylltiedig â'r galon. Fe'i tynnwyd o'r farchnad ym 1967 oherwydd sgil effeithiau. Ym 1974 gwelwyd bod yn ddefnyddiol ar gyfer arrhythmia a chafodd ei ailgyflwyno. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]

Defnydd golygu

Mae amiodarone yn cael ei ddefnyddio i drin ffibriliad rhedwelïol a fentriglaidd cylchol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin chwimguriad fentrigliaidd y galon a  chwimguriad uwch fentrigliaidd y galon. Mae'n cael ei ddefnyddio i drin syndrom Wolff-Parkinson-Whyte[4].

Dos golygu

Mae amiodarone ar gael fel tabledi neu fel pigiad. Gan fod gan y cyffur sgil effeithiau difrifol mae triniaeth gychwynnol yn cael ei roi mewn ysbyty o dan oruchwyliaeth arbenigwr. Mae ar gael drwy ragnodyn yn unig. Y dos arferol yw 600 mg y dydd yn cael ei leihau i 400 mg y dydd a 100–200 mg y dydd. Ar ffurf tabledi mae'n dechrau gweithio rhwng 72 awr a rhai wythnosau, ond trwy bigiad mae'n dechrau gweithio o fewn hanner awr. Gall ei effeithiau para rhwng 3 a 12 mis.

Sgil effeithiau golygu

Mae nifer o sgil effeithiau yn perthyn i'r cyffur, ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Chwydu / teimlo'n gyfoglyd
  • Anaf i'r afu
  • Gor sensitifrwydd i olau
  • Aflonyddu ar yr olwg

Mae sgil effeithiau llai cyffredin yn cynnwys

Beichiogrwydd golygu

Ni ddylai merched beichiog defnyddio'r cyffur

Bwydo ar y bron golygu

Gall cael ei drosglwyddo i'r baban gan hynny nid yw'n cael ei gymeradwyo ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.

Gyrru golygu

Dylid osgoi gyrru a gwaith peryglus arall hyd wybod effeithiau'r cyffur. Un o'r peryglon mawr wrth yrru yw bod y cyffur yn amlhau effaith dallu goleuadau cryf.

Alcohol golygu

Mae'n iawn yfed yn gymedrol

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • arhythmia'r galon
  • ffibriliad fentriglaidd
  • clefyd y galon
  • ffibriliad atrïaidd
  • Enwau golygu

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amiodaron, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Cordarone®
  • 2-n-Butyl-3',5'-diiodo-4'-N-diethylaminoethoxy-3-benzoylbenzofuran
  • 2-Butyl-3-benzofuranyl 4-(2-(diethylamino)ethoxy)-3,5-diiodophenyl ketone
  • 2-Butyl-3-(3,5-diiodo-4-(2-diethylaminoethoxy)benzoyl)benzofuran
  • amiodarone hydrochloride
  • Cyfeiriadau golygu

    1. "Cordarone X Intravenous". emc. Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.
    2. Pubchem. "Amiodaron". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    3. Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol 2015 (Rhif 19) adalwyd 15 Chwefror 2018
    4. "Web MD - Amiodarone".


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!