Amlinell
Gall amlinell olygu mwy nag un peth; mewn mathemateg, gall gyfeirio at y linell o amgylch gofod, gan greu siâp e.e. llinellau triongl. Mewn celf, gall 'amlinell' olygu drafft, sgets neu fraslun, neu hyd yn oed silwét; defnyddir y term 'tynnu amlinell' yn aml am to draw.
O ddydd i ddydd, defnyddir y term yn fwy llac i gyfleu'r pwyntiau pwysig, gynllun, neu ddisgrifiad cyffredinol o rywbeth e.e. "Ceir amlinelliad o'r llyfr yn yr adolygiad."
Defnyddiwyd y gair mewn soned adnabyddus a phoblogaidd gan T. H. Parry-Williams, sef 'Moelni'. Yn y gerdd mae'r bardd yn disgrifio'i ardal enedigol, gan nodi mor 'llwm', 'anial' a 'moel' yw mynyddoedd Eryri. Disgrifia fel y mae'r rhain wedi gadael cryn effaith arno ef a'i waith. Yn chwechawd ola'r soned, mae'n ddisgrifio'r hyn fydd ar ôl ohono, wedi iddo farw e.e. ei waith, ac gorffena gyda'r gwpled:
- Ni welir arno lun na chynllun chwaith,
- Dim ond amlinell lom y moelni maith.
Defnydd o'r term
golygu- Cyllideb ddrafft amlinellol - outline draft budget (gweler TermCymru Archifwyd 2016-05-26 yn y Peiriant Wayback)
- Rhaglen Amlinell Strategol - Strategic Guideline Programme
- Tynnu amlinell - Draw
- Amlinell testun - text contour (gweler TermCymru Archifwyd 2016-05-26 yn y Peiriant Wayback a'r Termiadur Addsyg)