AmmanNet
Gwefan newyddion o Wlad Iorddonen yw AmmanNet. Dechreuodd yn y flwyddyn 2000 fel prosiect radio cymunedol dan nawdd UNESCO ac eraill, yn cael ei gyfarwyddo gan y newyddiadurwr Daoud Kuttab.[1] Hwn oedd y radio rhyngrwyd cyntaf yn y byd Arabaidd. Yn 2005, sefydlwyd gwasanaeth radio daearol - y radio annibynnol cyntaf yn hanes y wlad - yn ardal Amman ac yn 2008 newidiwyd enw'r orsaf i Al-Balad Radio.[2]
Parhaodd AmmanNet fel gwefan newyddion sy'n cyhoeddi yn Arabeg yn bennaf ond gyda rhai erthyglau Saesneg hefyd. Erbyn 2008 roedd yn cael ei gydnabod fel gwefan newyddion annibynnol mwyaf poblogaidd Gwlad Iorddonen.[3]
Sensoriaeth
golyguMae AmmanNet yn un o 304 gwefan newyddion Iorddonaidd sydd wedi cael eu blocio gan awdurdodau Gwlad Iorddonen.[4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ About Us Archifwyd 2016-01-07 yn y Peiriant Wayback, gwefan AmmanNet.
- ↑ 'Radio Al-Balad 92.4'[dolen farw], ar wefan Mediame.com.
- ↑ AmmanNet Archifwyd 2013-05-26 yn y Peiriant Wayback, proffeil ar mediame.com.
- ↑ Jordan: 304 National News Websites Blocked, ABC News.
- ↑ Authorities block hundreds of websites in Jordan, CPJ.org.
Dolen allanol
golygu- (Arabeg)(Saesneg) Gwefan AmmanNet (dim ar gael yng Ngwlad Iorddonen)