Al-Balad Radio

gorsaf radio yn yr Iorddonen

Radio cymunedol yng Ngwlad Iorddonen yw Al-Balad Radio. Mae'n darlledu yn Arabeg yn ardal Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen, ar 92.4 FM. Ei arbenigrwydd yw newyddion lleol. Mae'n gwmni di-elw.

Al-Balad Radio
Ardal DdarlleduAmman
ArwyddairLlais y Gymuned
Dyddiad Cychwyn2005/2008
PencadlysAmman
Perchennog cymunedol
Gwefanhttp://www.balad.fm/

Dechreuodd yn y flwyddyn 2000 fel prosiect radio cymunedol AmmanNet dan nawdd UNESCO ac eraill, yn cael ei gyfarwyddo gan y newyddiadurwr Daoud Kuttab.[1] Hwn oedd y radio rhyngrwyd cyntaf yn y byd Arabaidd. Yn 2005, sefydlwyd gwasanaeth radio daearol - y radio annibynnol cyntaf yn hanes y wlad - yn ardal Amman ac yn 2008 newidiwyd enw'r orsaf i Al-Balad Radio.[2]

Yn ogystal i newyddion i'r gymuned, mae Al-Balad Radio yn cynnig amrywiaeth o raglenni gyda'r pwyslais ar ddatblygu cymunedol, galluogi pobl ifanc, ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. About Us Archifwyd 2016-01-07 yn y Peiriant Wayback, gwefan AmmanNet.
  2. 2.0 2.1 'Radio Al-Balad 92.4'[dolen farw], ar wefan Mediame.com.

Dolen allanol

golygu