UTC (Amser yn ôl y Cyd-drefniant Byd-eang) yw'r talfyriad am y raddfa amser cydlyniedig byd-eang sydd wedi cael ei derbyn fel sylfaen amser gan y mwyafrif helaeth o wledydd y byd.

UTC
Math o gyfrwngsafon amser, cylchfa amser Edit this on Wikidata
Yn cynnwyseiliad naid Edit this on Wikidata
Rhagflaenydduniversal time Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Er bod "UTC" yn ymddangos fel acronym, nid yw'n acronym dilys. Ym 1970 dyfeisiwyd y system Amser Cyffredinol Cydlynol gan grŵp cynghori rhyngwladol o arbenigwyr technegol o fewn yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (UTRh; Saesneg: International Telecommunication Union, ITU). Penderfynodd yr UTRh y byddai'n dynodi un byrfodd i'w ddefnyddio ym mhob iaith er mwyn osgoi peri dryswch. Ond ar ben hynny, roedden nhw'n dymuno osgoi ffafrio unrhyw iaith benodol. Felly, yn hytrach na defnyddio "CUT", sef y llythrenw ar gyfer "Coordinated Universal Time" yn Saesneg, neu "TUC", sef y llythrenw ar gyfer "Temps Universel Coordonné" yn Ffrangeg, dewiswyd y ffurf "UTC", sy'n ddatrisiad cyfaddawdol nad yw'n cyfateb i eiriau mewn unrhyw iaith.[1]

Cylchfaoedd amser UTC ar fap y byd

Cyfeiriadau

golygu
  1. National Institute of Standards and Technology (18 Ionawr 2011). "Frequently asked questions (FAQ)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-06. Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y calendr neu amser. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.