Amser Mawrth
Mae'r term amser Mawrth yn cyfeirio at amser ar y blaned Mawrth yn ogystal â'r drefn o gadw amser ar Fawrth a ddyfeiswyd gan NASA a'r Sefydliad Goddard ar gyfer Astudiaethau'r Gofod.
Math | safon amser |
---|---|
Lleoliad | Mawrth |
Y diwrnod Mawrthaidd (y sol) a chloc 24 awr Mawrth
golyguMae gan ddiwrnod heulol Mawrthaidd gyfnod cymedrig o 24 awr 39 munud 35.244 eiliad, ac fel arfer cyfeirir ato fel "sol" (o'r gair Lladin sol "haul") er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth ddiwrnodau heulol y Ddaear sy'n rhyw 3% yn fyrrach. Mae hyd y diwrnod serol Mawrthaidd, fel yr amcangyfrifir yng nghyswllt sêr sefydlog, yn 24 awr 37 munud 22.663 eiliad, o gymharu â diwrnod serol o 23 awr 56 munud a 04.0905 eiliad ar y Ddaear.
Yn dilyn yr ymarfer a fabwysiadwyd yn wreiddiol ym 1976 gan deithiau'r Viking Lander, amcangyfrir amrywiadau beunyddiol amser heulol Mawrth trwy ddefnyddio cloc 24 awr, sy'n rhannu'r sol yn 24 rhan, gan ddefnyddio'r israniadau trigeiniol traddodiadol o 60 munud a 60 eiliad. Mae munud (neu 60 eiliad) Mawrthaidd felly yn cyfateb i ryw 61.6 o eiliadau'r Ddaear.
Tymhorau Mawrth
golyguFel arfer y mae tymhorau heulol Mawrth yn cael eu mesuro mewn termau o hydred Mawrth-ganolig Ls yng nghyswllt cyhydnos y gwanwyn Mawrthaidd, gyda Ls = 0°, 90°, 180°, a 270° yn nodi cyhydnos y gwanwyn, heuldro'r haf, cyhydnos yr hydref a heuldro'r gaeaf (hemisffer y gogledd) yn y drefn honno.
Ls | Sol | Tymor (hemisffer y gogledd) |
---|---|---|
0° | 0 | Cyhydnos y gwanwyn |
90° | 193 | Heuldro'r haf |
180° | 371 | Cyhydnos yr hydref |
270° | 514 | Heuldro'r gaeaf |
Y flwyddyn Fawrthaidd
golyguMae hyd y flwyddyn drofanol Fawrthaidd yn 686.9726 diwrnod neu 668.5921 sol, tra mae blwyddyn serol Mawrth yn 668.5991 sol. Mae'r amser rhwng dau berihelion yn 668.6146 sol. Mae'r gwahaniaethau hyn yn ganlyniad o echreiddiad cylchdroadol a gogwydd y blaned.
Amser Cymedrig Airy (AMT) ac Amser Cydraddol Mawrth (MTC)
golyguYng nghanol y 18g disodlwyd yr hen arfer o fesuro a diffinio amser yn lleol gan y defnydd o ranbarthau neu gylchfaoedd amser er mwyn hwyluso safoni amserlenni rheilffyrdd ac, i raddau llai, cofnodi arsylwadau gwyddonol. Arweiniodd y broses hon i gynhadledd ryngwladol ym 1884 lle cafodd trefn fyd-eang o ranbarthau amser ei sefydlu gan leoli'r prif feridian ar hydred Greenwich. Mae pob rhanbarth yn 15° ei lled, gyda rhai amrywiadau am resymau gwleidyddol a daearegol. O fewn pob rhanbarth cyfeiriwyd pob cloc i'r un awr.
Diffinnir prif feridian Mawrth gan leoliad y crater Airy-0, a enwyd ar ôl y seryddwr Prydeinig George Biddel Airy, pensaer telesgop Greenwich lle lleolir prif feridian y Ddaear. Cyfeiriwyd at y drefn amseru ar gyfer Mawrth a gafodd ei ddyfeisio gan NASA fel Amser Cymedrig Airy (Saesneg: Airy Mean Time neu AMT) fel analog i Amser Cymedrig Greenwich (GMT) ond erbyn hyn cyfeirir ato fel Amser Cydraddol Mawrth (Saesneg: Coordinated Mars Time neu MTC) fel analog i Amser Cydraddol Cyffredinol (UTC).
Ceir hefyd rhanbarthau amser 15° eu lled, a chyfeirir atynt gydag ôl-ddodiad yn nodi'r gwahaniaeth mewn oriau rhwng pob rhanbarth a MTC; er enghraifft lleolir Olympus Mons yn y rhanbarth amser MTC-9, sef naw awr tu ôl i MTC.
Dyddiad Sol Mawrth (MSD)
golyguMae'r Dyddiad Sol Mawrth (Saesneg: Mars Sol Date neu MSD) yn cael ei ddiffinio gan AM2000. Mae hynny'n cynrychioli cyfrif dilyniannol o ddiwrnodau heulol Mawrth ers 12:00 GMT ar 29 Rhagfyr 1873 (Dyddiad Iŵl 2405522.0),. Roedd yr epoc hwn cyn gwrthsafiad perihelaidd mawr 1877 a bron pob arsylwad manwl o'r blaned. Mae'n cyfateb i Ls ar Fawrth o 277°, tua'r un hydred heulol planed-ganolig ag oedd gan y Ddaear ar yr un diwrnod. Roedd MSD 44796.0 yn cyd-ddigwydd â 2000 Ionawr 6.0 a Ls = 277° ar Fawrth. Roedd 44795 sol hefyd bron yn cyfateb i 126 o flynyddoedd Iŵl a 67 o flynyddoedd trofannol Mawrth. Cynhwysir MSD yn y rhaglen Java Mars24 o NASA.
Calendr Mawrth
golyguMisoedd
golyguMae calendr Cronfa Ddata Hinsawdd Mawrth (a noddir gan y Brifysgol Agored ac ESA) yn rhannu blwyddyn drofannol Mawrth yn 12 rhan. Mae'r "misoedd" hyn yn cael eu diffinio gan newid o 30° o hydred heulol/Mawrth-ganolig (Ls). Fel canlyniad o echreiddiad cylchdroadol Mawrth y mae hyd y misoedd hyn yn amrywio o 46 i 67 sol.
Mis | Ls | Sol cyntaf | Hyd mewn sols | Penodoldebau |
---|---|---|---|---|
1 | 0° | 0 | 61.2 | Cyhydnos y gwanwyn (hemisffer y gogledd) ar Ls = 0° |
2 | 30° | 61.2 | 65.4 | |
3 | 60° | 126.6 | 66.7 | Affelion ar Ls = 71° |
4 | 90° | 193.3 | 64,5 | Heuldro'r gaeaf (hemisffer y gogledd) ar Ls = 90° |
5 | 120° | 257.8 | 59.7 | |
6 | 150° | 317.5 | 54.4 | |
7 | 180° | 371.9 | 49.7 | Cyhydnos yr hydref (hemisffer y gogledd) ar Ls = 180°
Dechrau tymor y stormydd llwch |
8 | 210° | 421.6 | 46.9 | Tymor y stormydd llwch |
9 | 240° | 468.5 | 46.1 | Perihelion ar Ls = 251°
Tymor y stormydd llwch |
10 | 270° | 514.6 | 47.4 | Heuldro'r haf (hemisffer y gogledd) ar Ls = 270°
Tymor y stormydd llwch |
11 | 300° | 562.0 | 50.9 | Tymor y stormydd llwch |
12 | 330° | 612.9 | 55.7 | Diwedd tymor y stormydd llwch |
Cyfrif blynyddoedd Mawrth
golyguMae'r Gronfa Ddata Hinsawdd Mawrth yn cyfrif blynyddoedd Mawrth yn ôl y calendr a gynigiodd R. Todd Clancy (Journal of Geophys. Res 105, p 9553, 2000): gyda Blwyddyn 1 Mawrth yn dechrau ar 11 Ebrill 1955 (pan fu Ls = 0°, sef cyhydnos y gwanwyn yn hemisffer y gogledd, Dydd Calan Mawrth.)
Blwyddyn | Dydd Calan | Blwyddyn | Dydd Calan | Blwyddyn | Dydd Calan |
---|---|---|---|---|---|
1 | 11 Ebrill 1955 | 11 | 1 Chwefror 1974 | 21 | 22 Tachwedd 1992 |
2 | 27 Chwefror 1957 | 12 | 20 Rhagfyr 1975 | 22 | 10 Hydref 1994 |
3 | 15 Ionawr 1959 | 13 | 6 Tachwedd 1977 | 23 | 27 Awst 1996 |
4 | 2 Rhagfyr 1960 | 14 | 24 Medi 1979 | 24 | 2 Gorffennaf 1998 |
5 | 20 Hydref 1962 | 15 | 11 Awst 1981 | 25 | 1 Mehefin 2000 |
6 | 6 Medi 1964 | 16 | 29 Mehefin 1983 | 26 | 9 Ebrill 2002 |
7 | 25 Mehefin 1966 | 17 | 6 Mai 1985 | 27 | 6 Mawrth 2004 |
8 | 11 Gorffennaf 1968 | 18 | 3 Ebrill 1987 | 28 | 2 Ionawr 2006 |
9 | 29 Ebrill 1970 | 19 | 8 Chwefror 1989 | 29 | 10 Rhagfyr 2007 |
10 | 16 Mawrth 1972 | 20 | 6 Ionawr 1991 | 30 | 7 Hydref 2009 |
Yn ôl calendr y Dyddiad Sol Mawrth (MSD) ar y llaw arall, sy'n cael ei ddefnyddio gan NASA, cyfrifir blynyddoedd Mawrth ers 12:00 GMT ar 29 Rhagfyr 1873, felly mae Blwyddyn 1 calendr R. Todd Clancy (y tabl uchod) yn gyffelyb i Flwyddyn 43 y calendr MSD:
Blwyddyn | Dydd Calan | Blwyddyn | Dydd Calan | Blwyddyn | Dydd Calan |
---|---|---|---|---|---|
43 | 11 Ebrill 1955 | 53 | 1 Chwefror 1974 | 63 | 22 Tachwedd 1992 |
44 | 27 Chwefror 1957 | 54 | 20 Rhagfyr 1975 | 64 | 10 Hydref 1994 |
45 | 15 Ionawr 1959 | 55 | 6 Tachwedd 1977 | 65 | 27 Awst 1996 |
46 | 2 Rhagfyr 1960 | 56 | 24 Medi 1979 | 66 | 2 Gorffennaf 1998 |
47 | 20 Hydref 1962 | 57 | 11 Awst 1981 | 67 | 1 Mehefin 2000 |
48 | 6 Medi 1964 | 58 | 29 Mehefin 1983 | 68 | 9 Ebrill 2002 |
49 | 25 Mehefin 1966 | 59 | 6 Mai 1985 | 69 | 6 Mawrth 2004 |
50 | 11 Gorffennaf 1968 | 60 | 3 Ebrill 1987 | 70 | 2 Ionawr 2006 |
51 | 29 Ebrill 1970 | 61 | 8 Chwefror 1989 | 71 | 10 Rhagfyr 2007 |
52 | 16 Mawrth 1972 | 62 | 6 Ionawr 1991 | 72 | 7 Hydref 2009 |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Technical Notes on Mars Solar Time as Adopted by the Mars24 Sunclock
- (Saesneg) NASA GISS Mars24 Sunclock
- (Saesneg) NASA GISS: Telling Time on Mars Archifwyd 2010-02-27 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Martian Seasons and Solar Longitude
- (Saesneg) Cronfa Ddata Hinsawdd Mawrth
- (Saesneg) Earth Date to Martian Solar Longitude Conversion