Ffigurau a gafodd ei rhyddhau gan Heddlu De Cymru yn nodi bod 240 o alwadau dros doriadau reoliadau COVID yn ystod cyfnod Blwyddyn Newydd.[1]
Mae'r ffigurau'n dangos bod Cymru ychydig y tu ôl i weddill y DU wrth gyflwyno'r brechlyn Pfizer / BioNTech, gan annog gwleidyddion i fynegi pryder am y rhaglen. Mewn ymateb, dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y rhaglen ar y “cychwyn cyntaf” ond bod cyfraddau brechiadau yn cynyddu.[2]
2 Ionawr -
Mae nifer y profion COVID-19 a gynhaliwyd yng Nghymru ers dechrau'r pandemig yn pasio dwy filiwn, gyda 2,007,728 o brofion wedi'u cynnal. O'r rheini, mae 151,300 wedi bod yn posetif, a chafwyd 3,564 o farwolaethau cysylltiedig â COVID.[3]
Mae Newyddion BBC yn adrodd bod ymweliadau â mannau deiniadol yng Nghymru wedi bod yn uchel yn y dyddiau blaenorol er gwaethaf gwaharddiadau teithio a phobl yn cael eu hannog i aros gartref.[4]
Lleoliadau canolfannau Brechu COVID-19 yng Nghymru ar 15 Ionawr 2021.