Vaughan Gething
Gwleidydd Cymreig yw Vaughan Gething (ganwyd 15 Mawrth 1974) a oedd yn arweinydd Llafur Cymru rhwng Mawrth a Gorffennaf 2024 a Phrif Weinidog Cymru rhwng Mawrth a Awst 2024.[4][5]
Y Gwir Anrhydeddus Vaughan Gething AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Prif Weinidog Cymru | |
Mewn swydd 20 Mawrth 2024 – 5 Awst 2024 | |
Teyrn | Charles III |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Dilynwyd gan | Eluned Morgan |
Arweinydd Llafur Cymru | |
Mewn swydd 16 Mawrth 2024 – 24 Gorffennaf 2024 | |
Dirprwy | Carolyn Harris |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Dilynwyd gan | Eluned Morgan |
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | |
Mewn swydd 19 Mai 2016 – 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Dilynwyd gan | Eluned Morgan |
Dirprwy Weinidog dros Iechyd | |
Mewn swydd 11 Medi 2014 – 19 Mai 2016 [1] | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Gweinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Rebecca Evans |
Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi | |
Mewn swydd 26 Mehefin 2013 [2] – 11 Medi 2014 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Gweinidog | Jeffrey Cuthbert |
Aelod o Senedd Cymru dros De Caerdydd a Phenarth | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Lorraine Barrett |
Mwyafrif | 10,606 (29.2%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Lusaka, Zambia[3] | 15 Mawrth 1974
Cenedl | Cymro |
Plaid wleidyddol | Llafur Cyd-weithredol |
Priod | Michelle Gething |
Plant | 1 |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Gwaith | Cyfreithiwr, undebwr |
Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd ers 2011 ac roedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2024.[6]
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Humphrey Vaughan Ap David Gething yn Lusaka, prifddinas Sambia yn 1974. Roedd ei dad yn filfeddyg o Aberogwr a symudodd yno i weithio lle gyfarfu mam Gething, oedd yn cadw ieir.
Symudodd y teulu i wledydd Prydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger Y Fenni. Wedi cyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl. Felly symudodd i Dorset ble magwyd Gething.
Daeth yn ôl i Gymru fel myfyriwr i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Cafodd ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.[7]
Gyrfa
golyguCafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Trebiwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.
Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[6]
Etholiad arweinyddaeth Llafur
golyguYn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford ei fod am sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur, sefodd Gething fel ymgeisydd ar gyfer ar arweinyddiaeth. Ei unig wrthwynebydd oedd Jeremy Miles.
Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei feirniadu am dderbyn £200,000 o roddion gan berchennog cwmni gwastraff dadleuol yng Nghaerdydd.[4] Roedd hefyd cwestiynau ynglyn a'i enwebiad gan undeb Unite, am fod Jeremy Miles ddim yn gymwys o dan reolau'r undeb. Nid oedd Miles yn gymwys o dan reol newydd nad oedd ym ymwybodol ohono a ni wnaeth Unite ei hysbysu ohono yn ystod y hustingau. Felly dim ond Gething a gafodd ei gymeradwyo gan Unite.[8]
Ar 16 Mawrth 2024 cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad gyda Gething yn ennill o 51.7% i 48.3%. O'i ethol, Gething oedd yr arweinydd du cyntaf o unrhyw wlad yn Ewrop.[9]
Prif weinidogaeth
golyguYm mis Mehefin 2024, collodd Gething bleidlais o ddiffyg hyder, o 29 pleidlais i 27.[10] Un o’r ddau aelod Senedd Llafur na phleidleisiodd oedd Hannah Blythyn, a gafodd ei diswyddo gan Gething o’r Cabinet yn ddiweddar.[11]
Ar 16 Gorffennaf 2024 ymddiswyddodd pedwar aelod o'r Cabinet - Jeremy Miles, Lesley Griffiths, Julie James a Mick Antoniw. Yn fuan wedyn cyhoeddodd Gething y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur a Phrif Weinidog.[12] Ar 5 Awst 2024, ysgrifennodd at y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog, gyda'r bleidlais dros Brif Weinidog i gymeryd lle y diwrnod canlynol.[13]
Gething a'r COVID-19
golyguGething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg COVID-19 ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban oedd i'w chwarea yn Stadiwm y Principality ar 14 Mawrth 2020.[14][15]
Daeth Gething o dan sawl beirnidaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).[16]
Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o Gynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2020.[17][18] Bu galw arno i ymddiswyddo gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru[19].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Lib Dem Williams named in new cabinet". 19 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Hydref 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ "Lewis named as education minister". 26 Mehefin 2013. Cyrchwyd 18 Hydref 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ Davies, Daniel (9 November 2018). "Welsh Labour's mystery runners?". BBC. BBC News. Cyrchwyd 17 Awst 2019.
- ↑ 4.0 4.1 "Vaughan Gething wedi ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-03-16. Cyrchwyd 2024-03-16.
- ↑ "Ethol Vaughan Gething yn ffurfiol yn brif weinidog". BBC Cymru Fyw. 2024-03-20. Cyrchwyd 2024-03-20.
- ↑ 6.0 6.1 "Y Gwir Anrh Vaughan Gething AS: Prif Weinidog Cymru | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Prif Weinidog Cymru: Pwy yw Vaughan Gething?". BBC Cymru Fyw. 2024-02-15. Cyrchwyd 2024-03-20.
- ↑ "'Anhapus iawn': Jeremy Miles yn cwestiynau'r modd y penderfynodd undeb enwebu Vaughan Gething". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-16. Cyrchwyd 2024-03-16.
- ↑ Morris, Steven (2024-03-16). "Vaughan Gething to become Welsh first minister after Labour leadership win". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-03-16.
- ↑ "Y Prif Weinidog Vaughan Gething yn colli pleidlais o ddiffyg hyder". Newyddion S4C. 5 Mehefin 2024.
- ↑ "Wales' first minister set to lose confidence vote". BBC Wales News (yn Saesneg). 5 Mehefin 2024.
- ↑ "Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething yn ymddiswyddo". BBC Cymru Fyw. 2024-07-16. Cyrchwyd 2024-07-16.
- ↑ "Vaughan Gething yn ysgrifennu at y Brenin i ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Coronavirus: Plaid Cymru call for Wales v Scotland to be called off". BBC News (yn Saesneg). 2020-03-12. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ James, Ben (2020-03-15). "Welsh health minister who said Wales v Scotland was ON speaks for first time". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Llywodraethau wedi 'esgeuluso'u dyletswyddau'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-21. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ ""What the…" – sylwadau Vaughan Gething am ei gyd-aelod Llafur yn cael eu dal ar feicroffon". Golwg360. 2020-04-22. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Vaughan Gething yn ymddiheuro ar ôl rhegi am gyd-AC Llafur". BBC Cymru Fyw. 2020-04-22. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ https://twitter.com/Adamprice/status/1252985455546679296