Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
- Am y cerrig milltir pwysicaf, gweler: Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru.
Ar 28 Chwefror profwyd y person cyntaf yng Nghymru yn bositif o'r haint COVID-19 a elwir weithiau'n 'Ofid Mawr' ac ar 16 Mawrth 2020, bu farw'r person cyntaf yng Nghymru o'r haint.[1] Enw'r firws sy'n achosi'r haint hwn yw SARS-CoV-2, sef math o Goronafeirws RNA un-edefyn, ac fe'i gwelwyd am y tro cyntaf yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.
Dyma grynodeb o'r ystadegau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y misoedd cyntaf daeth y niferoedd o brofion/achosion yn bennaf o gleifion a gymerwyd i'r ysbyty, neu weithwyr iechyd a gafodd brawf. Ers 18 Mai 2020 caiff unrhyw berson dros 5 oed ofyn am brawf.[2] Mae'r nifer marwolaethau yn cynnwys achosion a adroddwyd i ICC mewn ysbyty neu gartref gofal lle cafwyd prawf positif mewn labordy a lle mae meddyg yn credu mai COVID-19 wnaeth achosi'r farwolaeth. Ffynhonnell y ffigyrau yma yw gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ystadegau am farwolaethau a gofrestrwyd yn y DU ac mae'n rhoi cyfanswm o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws.[3]
Ni fydd diweddaradau ystadegau cyson ar ôl 25 Mai 2022
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mai 2022 | Niferoedd Cymru |
---|---|
Nifer yr unigolion a brofwyd: | 5,069,486 |
Nifer yr achosion: | 874,425 |
Nifer y brechiadau (dos cyntaf / ail ddos / brechiad atgyfnerthol): | 2,559,001 / 2,418,070 / 1,980,140 |
Nifer y marwolaethau (ffigyrau dyddiol ICC): | 7,473 |
Nifer y marwolaethau (ONS): | 9,051 (hyd at 3 Rhagfyr 2021) |
Graffiau
golyguMae'r graffiau yma yn defnyddio ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae'r ffigyrau yn cynnwys achosion a marwolaethau a adroddwyd ar y diwrnod hynny, a fydd efallai yn cynnwys sawl achos (prawf positif) neu farwolaeth a ddigwyddodd sawl diwrnod ynghynt. Fodd bynnag mae'r graff marwolaethau yn ôl dyddiad a ddigwyddodd, nid pryd ei adroddwyd.
Cyfanswm yr achosion a'r marwolaethau yn ôl dyddiad adroddwyd
golyguAchosion newydd yn ôl dyddiad adroddwyd
golygu
Ffynhonnell: coronavirus.data.gov.uk.[4]
Achosion newydd yn ôl wythnos adroddwyd
golygu2020
golygu2021
golygu2022
golyguNifer o farwolaethau yn ôl wythnos adroddwyd
golyguMarwolaethau ar draws Cymru
golyguMae saith bwrdd iechyd yng Nghymru[5]. Dyma'r niferoedd o farwolaethau fesul bwrdd:
1. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - 102 2. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - 1,225 3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - 1,992 4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - 770 5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - 1017 6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 1,386 7. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 952 8. Tu allan i Gymru - 23 Nifer y marwolaethau drwy Gymru: 7,467[6]
|
Marwolaethau ychwanegol yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol
golyguMae'r graff isod yn dangos y marwolaethau ychwanegol (Saesneg: excess deaths) yng Nghymru yn 2020/2021 uwchben y cyfartaledd dros y 5 mlynedd cynt. Defnyddir hyn fel ystadegyn awdurdodol i gymharu effaith y pandemig ar boblogaeth unrhyw wlad.
Niferoedd a heintiwyd
golygu- Nifer a brofwyd yn bositif o'r COVID-19
- Diweddarwyd diwethaf ar 18 Ebrill o'r ystadegau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r siart canlynol yn nodi'r nifer o achosion o COVID-19 allan o bob 10,000 person.
Y siroedd gyda lleiaf o achosion: |
Y siroedd gyda'r mwyaf o achosion: |
Bwrdd Iechyd | Awdurdod Lleol | Achosion | Cyfanswm yr achosion |
---|---|---|---|
Aneurin Bevan | Blaenau Gwent | 5,919 | 39,235 |
Caerffili | 12,674 | ||
Casnewydd | 10,587 | ||
Sir Fynwy | 3,943 | ||
Torfaen | 6,144 | ||
Betsi Cadwaladr | Conwy | 3,310 | 31,544 |
Gwynedd | 2,705 | ||
Sir Ddinbych | 4,001 | ||
Sir y Fflint | 8,811 | ||
Wrecsam | 10,901 | ||
Ynys Môn | 1,816 | ||
Cardydd a'r Fro | Bro Morgannwg | 7,033 | 31,590 |
Caerdydd | 24,557 | ||
Cwm Taf Morgannwg | Merthyr Tudful | 6,316 | 39,267 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 12,254 | ||
Rhondda Cynon Taf | 20,665 | ||
Hywel Dda | Ceredigion | 1,680 | 15,039 |
Sir Benfro | 3,176 | ||
Sir Gaerfyrddin | 10,183 | ||
Powys | Powys | 3,723 | 3,723 |
Bae Abertawe | Abertawe | 16,485 | 27,551 |
Castell-nedd Port Talbot | 11,066 | ||
Lleoliad anhysbys | 1,783 | ||
Preswylwyr tu allan i Gymru | 9,029 | ||
Cyfanswm Cymru | 189,732 | ||
Cyfanswm | 198,761 |
Cymhariaeth gyda rhai gwledydd eraill
golygu- Diweddarwyd diwethaf ar 13 Chwefror 2021.
- Marwolaethau
Gwlad | Nifer y marwolaethau | Ffynhonnell | Poblogaeth (miliwn) |
Nifer allan o 100,000 a fu farw |
---|---|---|---|---|
Gwlad yr Iâ | 29 | [8] | 0.4 | 7.3 |
Georgia | 3,343 | [8] | 3.7 | 90.4 |
Seland Newydd | 25 | [8] | 5.0 | 0.5 |
Norwy | 592 | [8] | 5.3 | 11.2 |
Slofenia | 3,705 | [8] | 2.0 | 185.3 |
Awstria | 8,195 | [8] | 8.9 | 92.1 |
Gweriniaeth Iwerddon | 3,931 | [8] | 4.8 | 81.9 |
Yr Alban | 6,711 | (PHS)[9] | 5.5 | 122.0 |
Cymru | 5,106 | [10] | 3.2 | 159.6 |
Lloegr | 103,106 | [11] | 56.3 | 183.1 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Coronafeirws: Y claf cyntaf o Gymru wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2020-03-16. Cyrchwyd 2020-04-06.
- ↑ Coronafeirws: Edrych nôl ar ddydd Llun, 18 Mai , BBC Cymru Fyw, 18 Mai 2020. Cyrchwyd ar 19 Mai 2020.
- ↑ (Saesneg) Deaths registered weekly in England and Wales, provisional (26 Mai 2020).
- ↑ GOV.UK Coronavirus (COVID-19) in the UK Archifwyd 16 Awst 2020 yn y Peiriant Wayback (adran: Daily cases by date reported) coronavirus.data.gov.uk, accessed 16 January 2020
- ↑ http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/45028
- ↑ Rapid COVID-19 surveillance
- ↑ "Cases and tests, by Local Authority of residence". Public Health Wales. 16 Mai 2020. Cyrchwyd 16 Mai 2020.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 8.6 (Saesneg) Number of novel coronavirus (COVID-19) deaths worldwide as of December 2, 2020, by country. statista.com. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2020.
- ↑ www.gov.scot; adalwyd 17 Tachwedd 2020.
- ↑ Iechyd Cyhoeddus Cymru; adalwyd 17 Tachwedd 2020.
- ↑ The official UK Government website for data and insights on Coronavirus (COVID-19). Llywodraeth y DU. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2020.