Amy Coney Barrett
Cyfreithiwr, barnwr ac academydd o'r Unol Daleithiau yw Amy Coney Barrett (ganwyd 28 Ionawr 1972) sy'n gwasanaethu fel barnwr yn Llys Apêl yr Unol Daleithiau ar gyfer y Seithfed Cylchdaith. Cafodd ei henwebu gan yr Arlywydd Donald Trump ar 26 Medi 2020 ar gyfer yr Llys Goruchaf yn lle Ruth Bader Ginsberg a fu farw wythnos ynghynt.[1]
Amy Coney Barrett | |
---|---|
Ganwyd | Amy Vivian Coney 28 Ionawr 1972 New Orleans |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithegwr, academydd, cyfreithiwr |
Swydd | Judge of the United States Court of Appeals for the Seventh Circuit, Associate Justice of the Supreme Court of the United States |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Jesse M. Barrett |
Roedd yr enwebiad yma'n un arwyddocaol gan ei bod yn flwyddyn etholiad, bu rhaid i'r Senedd gadarnhau'r enwebiad yn y cyfnod byrraf erioed neu roedd yr Arlywydd nesaf yn cael cyfle i ddewis yr enwebiad oes o farnwr yn y Llys Goruchaf.[1]
Cafodd ei gadarnhau gan y Senedd ar y 27 Hydref 2020 a thyngu llw o flaen torf o 200 o bobol yng ngerddi'r Tŷ Gwyn ar yr un diwrnod. Mae hyn yn creu mwyafrif gweriniaethol (7-3) ar y Llys Goruchaf gan gynyddu'r gallu'r Llys i wrthdroi deddfwriaeth ac achosion pwysig fel deddf Gofal Fforddiadwy (Obamcare) Roe v. Wade (hawl i fenyw cael erthyliad).[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Donald Trump yn cyhoeddi ei enwebiad ar gyfer Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2020-09-27. Cyrchwyd 2020-09-30.
- ↑ "Amy Coney Barrett wedi ei phenodi i Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-11-06.
- ↑ Pengelly, Martin; Luscombe, Richard (2020-09-27). "Trump says overturning Roe v Wade 'possible' with Barrett on supreme court". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-11-06.