Amy Dillwyn

nofelydd, diwydiannydd ac ymgyrchydd ffeminyddol

Roedd Elizabeth Amy Dillwyn (16 Mai 1845 - 13 Rhagfyr 1935) yn nofelydd, yn gymwynaswraig ac yn wraig fusnes, o Abertawe.

Amy Dillwyn
GanwydElizabeth Amy Dillwyn Edit this on Wikidata
16 Mai 1845 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1935 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd, llenor, swffragét, diwydiannwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
TadLewis Llewelyn Dillwyn Edit this on Wikidata
MamElizabeth de La Beche Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Sketty, yn ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn ac Elizabeth (née De la Beche). Roedd ei thad yn ŵr amlwg yn natblygiad diwydiannol ardal Abertawe a bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol dros Abertawe rhwng 1855 a 1892. Bu farw dyweddi Amy Dillwyn, Llewellyn Thomas o Lwynmadog, yn ddisymwyth cyn eu priodas ym 1864. Bu farw ei mam ym 1866 ac ar ôl marwolaeth ei brawd ym 1890 a'i thad ym 1892, etifeddodd hi weithfeydd ei thad. Ymgymrodd â'r gwaith o reoli'r gweithfeydd ei hun ac felly daeth yn adnabyddus fel arloeswraig ym myd busnes a diwydiant.Gadawodd ei thad ddyled a fuasau yn cyfateb i £8m yng ngwerthoedd heddiw..Serch hynny arbedodd 300 o swyddi.

Roedd Amy Dillwyn yn gymeriad lliwgar ac fe ddaeth hi'n adnabyddus am ei barn di-flewyn-ar-dafod, ei gwisg ecsentrig a'i hoffter o ysmygu sigârs. Rhwng 1880 ac 1892, cyhoeddodd Amy Dillwyn chwe nofel ac mae pob un yn ymdrin â safle menywod yn y gymdeithas Fictorianaidd. Etholwyd hi yn llywydd cangen Abertawe o'r NUWSS.

Bu farw yn 90 oed ar 13 Rhagfyr 1935; amlosgwyd hi a chladdwyd ei llwch ym mynwent Eglwys St Paul, Sketty.

Gweithiau llenyddol

golygu

Darllen pellach

golygu
  • David Painting, Amy Dillwyn (1987)
  • David Painting: Amy Dillwyn, Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 2013, ISBN 978-0-7083-2672-5

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.