Anantasana (Vishnu'n Cysgu)
Asana neu osgo'r corff mewn ioga yw Anantasana (Sansgrit: अनन्तासन; IAST : Anantāsana), Vishnu'n Cysgu[1] neu'r Tragwyddol Un [2] ac fe'i ceir heddiw mewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas lledorwedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit anantā (अनन्त) sy'n golygu "heb ddiwedd" neu "yr un anfeidrol", am y sarff pen-mil Shesha y gorweddai Vishnu arni ar waelod y cefnfor primordial,[3] a āsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "sedd".[4]
Darluniwyd asana lledorwedd gwahanol o'r enw Anantasana yn Sritattvanidhi yn y 19g.[5] Disgrifir yr asana modern yn Light on Yoga 1966.[3]
Disgrifiad
golyguMae Anantasana'n ddatblygiad naturiol o'r asana gorwedd. Cynhelir y pen ag un llaw, y fraich uchaf ar y llawr ar yr ochr honno; mae'r llaw arall a'r goes yn cael eu hymestyn yn syth i fyny, y bysedd yn gafael ym mus bawd mawr y droed uchel. Mae'r fraich gynhaliol, y corff, a'r goes isaf mewn llinell syth.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Anantasana". Yoga Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-27. Cyrchwyd 28 Ionawr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "Side-Reclining Leg Lift". Yoga Journal. 3 Mehefin 2008.
- ↑ 3.0 3.1 Iyengar, B. K. S. (1977) [1966]. Light on yoga: yoga dipika. Schocken Books. t. 246. ISBN 978-0-8052-1031-6.
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. tt. 69 and plate 1 (pose 1). ISBN 81-7017-389-2.
Darllen pellach
golygu- Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.