André Gunder Frank
Economegydd a chymdeithasegydd Almaenig oedd André Gunder Frank (24 Chwefror 1929 – 23 Ebrill 2005).
André Gunder Frank | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1929 Berlin |
Bu farw | 23 Ebrill 2005 Dinas Lwcsembwrg, Lwcsembwrg |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, llenor, cymdeithasegydd, academydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Tad | Leonhard Frank |
Gwefan | http://rrojasdatabank.info/agfrank/ |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Andreas Frank ym Merlin. Nofelydd a heddychwr oedd ei dad. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl yn y Swistir yn 4 oed i osgoi gormes yn yr Almaen Natsïaidd. Aeth i'r Unol Daleithiau yn 1941 i ymuno â'i rieni yn Hollywood, Los Angeles, a mynychodd yr uwch-ysgol yno. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Ann Arbor, Michigan. Cafodd ei wawdio yn yr ysgol am fod yn araf, a rhoddwyd yr enw "Gunder" iddo fel cyfeiriad at y rhedwr Swedaidd Gunder Hägg.[1]
Astudiodd economeg yng Ngholeg Swarthmore, Pennsylvania, a derbyniodd ei radd yno yn 1950. Mabwysiadodd daliadau Keynesaidd yn ystod ei gyfnod israddedig. Aeth i Brifysgol Chicago i gyflawni ei ddoethuriaeth, ac erbyn iddo orffen ei astudiaethau yn 1957 fe wrthwynebai syniadaeth ei diwtor, yr arianyddwr Milton Friedman. Trodd Frank yn erbyn theorïau Americanaidd ynghylch datblygiad economaidd, a dadleuodd o blaid gwella cydraddoldeb cymdeithasol a gwleidyddol cyn ennill effeithlonrwydd economaidd.[1]
Bywyd personol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Barry K. Gills, "Andre Gunder Frank", The Guardian (4 Mai 2005). Adalwyd ar 18 Ionawr 2019.