Edward Millward

Gwleidydd, cenedlaetholwr ac academydd o Gymro
(Ailgyfeiriad o Tedi Millward)

Gwleidydd, academydd a chenedlaetholwr oedd Edward "Tedi" Glynne Millward (28 Mehefin 193018 Ebrill 2020).[1][2][3]

Edward Millward
GanwydEdward Glynne Millward Edit this on Wikidata
28 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantAndras Millward, Llio Millward Edit this on Wikidata

Astudiodd Millward yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ac yna Coleg Prifysgol De Cymru, cyn dod yn ddarlithydd.[4]

Daeth yn weithgar ym Mhlaid Cymru. Safodd Millward dros y blaid ddwywaith yn Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966 a Sir Drefaldwyn ym 1970, ond ni chafodd ei ethol.[4] Yn 1966, fe'i hetholwyd yn Is-Lywydd Plaid Cymru,[5] ond fe synnodd lawer pan safodd i lawr yn 1968,[6] er mwyn dysgu Cymraeg i'r Tywysog Charles cyn iddo gael ei arwisgo fel Tywysog Cymru. Dysgodd y tywysog dros naw wythnos ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[7]

Wedi hynny, gwasanaethodd Millward fel llefarydd Plaid Cymru ar bolisi dŵr, ac yn y rôl honno roedd yn argymell gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd.[8] Yn 1976, fe'i henllibiwyd gan Willie Hamilton, a honnodd ei fod wedi bod yn gysylltiedig â gweithgareddau terfysgol wrth hyfforddi Charles; derbyniodd £1000 mewn setliad.[9]

Wedi hynny, canolbwyntiodd Millward ar ei yrfa fel academydd, gan ddarlithio yn y Gymraeg yn Aberystwyth. Yn y 1980au cynnar, cefnogodd ymgyrch lwyddiannus Gwynfor Evans am orsaf deledu Gymraeg.[10] Yn 2003, lansiodd ymgyrch ar gyfer canolfan i goffáu Dafydd ap Gwilym.[11]

Cyhoeddodd ei hunangofiant Taith Rhyw Gymro (Gwasg Gomer) yn 2015.

Fe'i portreadwyd gan Mark Lewis Jones yng nghyfres The Crown ar Netflix lle y'i dangosir yn dysgu Cymraeg i'r Tywysog Siarl. Canmolwyd y bennod “Tywysog Cymru” am ei defnydd o'r Gymraeg mewn darnau helaeth o'r ddeialog, ac fe'i disgrifiwyd yn "ddefnyddiol iawn" o ran hyrwyddo'r Gymraeg yn fyd-eang.[12]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod â Silvia Hart a chawsant ddau o blant, Andras Millward a Llio Millward.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Marw’r cyn-wleidydd, darlithydd a chenedlaetholwr Tedi Millward , Golwg360, 27 Ebrill 2020.
  2. (Saesneg) Edward G Millward in the 1939 England and Wales Register. Ancestry.com.
  3. Prince Charles remembers his Welsh nationalist teacher Tedi Millward (en) , Tatler, 29 Ebrill 2020. Cyrchwyd ar 4 Mai 2020.
  4. 4.0 4.1 The Times Guide to the House of Commons 1970, p.164
  5. Knut Diekmann, Die Nationalistische Bewegung in Wales, p.585
  6. John Humphries, Freedom fighters: Wales's forgotten 'war', 1963-1993, p.96
  7. "Charles termed serious, hard-working student", Leader-Post, 24 Mai 1969, p.1
  8. Alan Butt Philip, The Welsh Question, p.122
  9. "Hamilton to pay £1000 for libel", Glasgow Herald, 12 Chwefror 1976, p.2
  10. Susan Loth, "Minor languages dying", Lewiston Tribune, 25 Mehefin 1981, p.4A
  11. "Memorial plan to honour poet after 600 years", Western Mail, 13 Mehefin 2003
  12. "The Crown praised for using Welsh in show". BBC News (yn Saesneg). 26 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2019.
  13. 'Mae Dad yn siomedig na wnaeth y Tywysog hybu'r iaith' , BBC Cymru Fyw, 4 Gorffennaf 2019.
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Chris Rees
Islywydd Plaid Cymru
19661968
Olynydd:
Phil Williams