Angkor Wat
Teml yn Angkor, ger dinas Siem Reap, Cambodia, yw Angkor Wat (neu Angkor Vat). Cafodd ei chodi ar orchymyn y Brenin Suryavarman II yn gynnar yn y 12g fel ei deml wladol ym mhrifddinas newydd y wlad. Dim ond un o sawl teml ar safle Angkor yw Angkor War, ond dyma'r unig un ohonynt sy'n aros yn ganolfan grefyddol, wedi'i sefydlu yn wreiddiol fel teml Hindŵaidd, wedi'i chysegru i'r duw Vishnu, ac wedyn yn deml Bwdhaidd. Mae'n cynrychioli uchafbwynt arddull clasurol pensaernïaeth Khmer. Mae wedi tyfu yn symbol o Cambodia ei hun, gan ymddangos ar ei baner genedlaethol, ac mae'n brif atyniad twristaidd y wlad hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | Buddhist temple, safle archaeolegol, Hindu temple, atyniad twristaidd |
---|---|
Crëwr | Suryavarman II |
Rhan o | Angkor, Angkor |
Dechrau/Sefydlu | 12 g |
Enw brodorol | អង្គរវត្ត |
Rhanbarth | Talaith Siem Reap |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynlluniwyd Angkor Wat i gynrychioli Mynydd Meru, cartref y devas ym mytholeg Hindŵaidd. Edmygir y deml am fawredd ei chynllwyn a chydbwysedd ei elfennau pensaernïol a'i cherfluniau bas-relief niferus o dduwiau a duwiesau.
Mae'n ganolfan pererindod.