Cambodia
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion.[1] Mae'n ffinio â Gwlad Tai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Tai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.
Gweriniaeth Democrataidd Fietnam Cộng hòa Xã hội chủ nghĩa Việt Nam | |
Arwyddair | Teyrnas Syfrdandod |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, brenhiniaeth gyfansoddiadol, teyrnas |
Prifddinas | Phnom Penh |
Poblogaeth | 16,005,373 |
Sefydlwyd | 2 Medi 1945 (Datganiad o Annibyniaeth) |
Anthem | Nokor Reach |
Pennaeth llywodraeth | Hun Manet |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Asia/Phnom_Penh |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Chmereg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia |
Gwlad | Cambodia |
Arwynebedd | 181,035 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Laos, Gwlad Tai, Fietnam |
Cyfesurynnau | 12.5°N 105°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Llywodraeth Cambodia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Cambodia |
Pennaeth y wladwriaeth | Norodom Sihamoni |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cambodia |
Pennaeth y Llywodraeth | Hun Manet |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Islam, Cristnogaeth, eneidyddiaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $26,961 million, $29,957 million |
Arian | riel |
Cyfartaledd plant | 2.36 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.593 |
Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindŵ a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieiniaidd rhwng y 11g a'r 14g.
Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal â Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.
Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat.[2] Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad.[3] Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.[4]
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth Cambodia
Mae gan Cambodia arwynebedd o 181,035 km sgwâr (69,898 milltir sgwâr), gan rannu ffin o 800 kilomedr (500 mi) gyda Gwlad Tai yn y gogledd a'r gorllewin, ffin o 541 kilomedr (336 mi) gyda Laos yn y gogledd-ddwyrain, a ffin o 1,228 kilomedr (763 mi) gydag Fietnam yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae ganddi 443 kilomedr (275 mi) o arfordir ar hyn Gwlff Gwlad Tai. Nodwedd ddaearyddol mwyaf unigryw yw'r paith llynnol, a ffurfiwyd gan lifogydd y Tonle Sap (Y Llyn Mawr), sy'n mesur tua 2,590 kilomedr sgwâr (1,000 milltir sgwâr) yn ystod y tymor sych ac sy'n ehangu i tua 24,605 kilomedr sgwâr (9,500 milltir sgwâr) yn ystod y tymor gwlyb. Mae'r paith poblog hwn, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tyfu reis gwlyb, yng nghefn gwlad Cambodia.
Mae'r rhan fwyaf o'r wlad (tua 75%) ar uchder o 100 medr (330 troedfedd) neu'n îs uwchlaw lefel y môr, ag eithrio'r Mynyddoedd Cardamom (man uchaf 1,813 m / 5,948 troedfedd) a'u hestyniad yn y de-ddwyrain, y Mynyddoedd Dâmrei ("Mynyddoedd yr Eliffantod") (ystod uchder o 500–1,000 m neu 1,640–3,280 troedfedd), yn ogystal â tharenni serth y Mynyddoedd Dângrêk Mountains (uchder cyfartalog 500 m / 1,640 troedfedd) ar hyd y ffin gydag ardal Isan Gwlad Tai. Man uchaf Cambodia ydy Phnom Aoral, ger Pursat yng nghanol y wlad, sy'n 1,813 medr (5,948 troedfedd).
Hanes
golygu- Prif: Hanes Cambodia
Amcangyfrifir fod y dystiolaeth gynharaf o wareiddiad datblygedig yn y Cambodia fodern yn dod ar ffurf cloddweithiau crwn artiffisial o'r mileniwn gyntaf CC.[5] Yn ystod y 3edd, 4edd a'r 5g, unodd y taleithiau Indianeiddiedig Funan a Chenla i greu'r hyn a elwir yn Cambodia a de-orllewin Fietnam. Tybir gan y mwyafrif o ysgolheigion fod y taleithiau hyn yn rhai Khmer.[6]
Brenhiniaeth gyfansoddiadol ers 1947 yw Cambodia.
Gwleidyddiaeth
golygu- Prif: Gwleidyddiaeth Cambodia
Ym mis Medi 2013 penderfynodd pwyllgor etholiad cyffredinol i roi buddugoliaeth i Blaid Bobl Cambodiaidd er honiadau o dwyll etholiadol.[7]
Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Cambodia
Economi
golygu- Prif: Economi Cambodia
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "General Population Census of Cambodia 2008 - Provisional population totals" (PDF). National Institute of Statistics, Ministry of Planning. Medi 3, 2008. Adalwyd ar 22-06-2009.
- ↑ San Miguel eyes projects in Laos, Cambodia, Myanmar Archifwyd 2014-10-19 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2009
- ↑ Cambodia hopes to start oil production in 2009, Ek Madra PHNOM PENH, (Reuters). 19-01-2007. Adalwyd ar 17-06-2009
- ↑ Cambodia's oil and mineral wealth sold to corrupt elites: watchdog. Adalwyd ar 17-06-2009
- ↑ Gerd Albrecht: Circular Earthwork Krek 52/62: Recent Research of the Prehistory of Cambodia. Adalwyd 17-07-2009
- ↑ Country Studies Handbook; daw'r wybodaeth o Adran Fyddinol yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 25-07-2009
- ↑ (Saesneg) "Cambodia's ruling CPP party confirmed election winner". BBC News. Medi 8, 2013. Adalwyd ar 12-09-2013.