Anhrefn
Band pync-roc Cymraeg a ffurfiwyd ym 1982 yw Anhrefn. Ym 1987, daeth Anhrefn y band Cymraeg cyntaf eu hiaith i arwyddo i gwmni recordio rhyngwladol (Workers Playtime). Wnaeth y band recordio dwy albwm efo'r cwmni, "Defaid, Skateboards & Wellies" ym 1987 a "Bwrw Cwrw" ym 1989.
Anhrefn | |
---|---|
Y Cefndir | |
Tarddiad | Bangor, Gwynedd |
Math o Gerddoriaeth | Roc pync |
Cyfnod perfformio | 1982–1995, 2007 |
Label | Anhrefn, Workers Playtime, Crai |
Perff'au eraill | Mangre |
Cyn-aelodau | |
Rhys Mwyn Sion Sebon Hefin Huws Dewi Gwyn Dafydd Ieuan Dylan Hughes Sion Jones Ryan Kift Gwyn Jones |
Recordiodd y band dair sesiwn i'r gohebydd cerdd enwog, John Peel ac yn eu hanterth roeddent yn perfformio hyd at 300 o gigs y flwyddyn ledled Ewrop. Anhrefn hefyd oedd un o'r bandiau cyntaf i berfformio yn Nwyrain Berlin. Ymddangosodd y band ar raglen gerdd Channel 4, 'The Tube' yn 1987, er i'r cylchgronau Cerddoriaeth Prydeinig anwybyddu llwyddiant Anhrefn ar y cyfan.
Caiff enw'r band (wedi ei gamsillafu fel "Anrhefn") a phortread chwaraewr bâs Rhys Mwyn ei ymddangos ar ochr yr adeilad gwasg Y Lolfa yn Tal-y-bont, Ceredigion. Maent yn ymddangos yn yr awdl 'Gwawr' gan Meirion MacIntyre Huws a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993.
Yn 2007 atgyfodwyd Anhrefn ond y tro hwn heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu.
Recordiau Anhrefn
golyguYn 1983, lansiodd y band label recordio annibynnol, 'Recordiau Anhrefn' gan ryddhau nifer o recordiau cynnar gan Y Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog, Fflaps a Tynal Tywyll. Diolch i'r label, enillodd fandiau Cymreig adnabyddiaeth a chlod tu hwnt i Glawdd Offa.
Disgyddiaeth
golyguAlbymau
golygu- Defaid, Skateboards a Wellies (1987), Workers Playtime
- Bwrw Cwrw (1989), Workers Playtime
- Soft Lights And Loud Guitars (Part 2) (1989) Released Emotions (LP rhanedig gyda Last Rough Cause)
- Bwtleg Powerhaus Llundain 1.3.1990 (1990)
- Rhowch Eich Teitl Eich Hun (1990), - caset albwm byw
- Dragons Revenge (1990), Lithograph, Crai, Probe Plus
- Dial y Ddraig (1990), Incognito
- Rhedeg i Bohemia Live (1991), Pro Art
- Dave Goodman Sessions (1991), Incognito, Crai
- Hen Wlad fy Mamau - Land of My Mothers (1995), Crai
Senglau
golygu- "Action Man" / "Rhywle Yn Moscow" / "Dagrau Yn Eu Llygaid" (1983) ar albwm amlgyfrannog Cam o'r Tywyllwch (12" LP ANHREFN 02)
- "Dim Heddwch" / "Priodas Hapus" (1983) Anhrefn (ANHREFN01; feinyl gwyrdd)
- "Be Nesa 89" / "Bach Dy Ben " (1988) Anhrefn
- "Rhedeg i Paris" / "Y Ffordd Ymlaen" / "Llygad Wrth Lygad" (1990) Crai C008s
- Bwtleg Powerhaus Llundain 1.3.1990 (1990), Information Libre (12" EP)
- Clutter From The Gutter (1994) Incognito, Crai (gyda llais Margi Clarke)