Tal-y-bont, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion
(Ailgyfeiriad o Tal-y-bont (Ceredigion))

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont[1][2] (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned Ceulan-a-Maesmor.

Tal-y-bont
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4803°N 3.9794°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN654893 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Tal-y-bont.

Saif ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19g ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhan fwyaf o'r rhain.

Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Mae Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd yn swyddogol ar 6 Awst 1924,[5] ni chaniateir yfed alcohol yn yr adeilad hwn. Cynhelir Ffair y Neuadd bob blwyddyn ar ddiwedd pob mis Tachwedd.

Heddiw

golygu

Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa, a dyfodd yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal â siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, a credwyd y byddai'r siop yn annhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[6] Datganwyd ym mis Awst 2009 i'r swyddfa gael ei hachub wedi cryn ymgyrchu.[7]

Mae dwy dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du bob blwyddyn hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symud i'r wlad a rhedeg tafarn. Erbyn 2007, roedd y Llew Du a'r Llew Gwyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[8]

Addysg

golygu

Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont yng ngogledd y pentref, mae'n ysgol Gymraeg sydd â tua 100 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Mae hefyd ysgol feithrin rhan amser sy'n cymryd plant iau, a chylch Ti a Fi pob prynhawn dydd Gwener.[9]

Diwylliant

golygu

Mae gan y pentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a changen Plaid Cymru.

Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.

Llifogydd

golygu

Mae'r afon Leri yn torri ei glannau yn rheolaidd ac efallai yn gynyddol:

A small woollen factory ...owned by one Wm Rees. Made flannel. A great flood in the Leri in 1870 swept away the factory. No lives were lost. The sudden flood was caused by a cloud-burst higher in the valley".

Yn anffodus y flwyddyn yn unig a gofnodir.[10]

A dyma dirlithriad diweddar yn yr un ardal uwchben ffermdy Nant y Nôd, yng Nghwm Ceulan[11], ar y ffordd i gronfa ddŵr Nant y Moch yn ystod glaw mawr 9 Mehefin eleni. Oherwydd y llifogydd a ddilynodd, daeth pentref Talybont, y pentref islaw, i sylw weddill Prydain.

Pobl o Dal-y-bont

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 15 Hydref 2024
  2. British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Welsh Gazette, 7 Awst 1924
  6. Y Siop, Hydref 2007
  7.  Post: Achub cangen?. Newyddion BBC (17 Awst 2009).
  8.  Y Llew Du. Papur Pawb (Hydref 2007).
  9.  Mudiad Ysgolion Meithrin.
  10. Dai Thorne, cys. pers.
  11. Bwletin Llên Natur rhifyn 56

Dolenni allanol

golygu