Roedd Y Cyrff yn fand poblogaidd yn yr 1980au, ac yn un o fandiau mwyaf dylanwadol ac arloesol Cymru.[1] Maen nhw'n dod o Lanrwst, Sir Conwy. Yr aelodau oedd Mark Roberts (llais a gitar), Barry Cawley (gitar), Paul Jones (gitar fas) a Dylan Hughes (drymiau). Pan adawodd Dylan cymerodd Mark Kendall ei le. Mae eu canu yn bobogaidd yng Nghymru, Lloegr a Llanrwst. Mae eu ymddangosiadau teledu yn cynnwys Stid, Roc Rol Te, Heno Heno Heno. Maen nhw wedi perfformio yn 'Steddfod Llanrwst.

Y Cyrff
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioRecordiau Anhrefn, Ankst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1983 Edit this on Wikidata
Dod i ben1992 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ycyrff.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar ôl i'r Cyrff chwalu ym 1992, aeth Roberts a Jones ymlaen i chwarae gyda Catatonia.

Gyrfa golygu

Ffurfiwyd y band 'indie' Cymraeg poblogaidd yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst yn ystod yr 80au cynnar.

Bu'r band yn gigio'n gyson ar draws gogledd Cymru a phan ryddhawyd 'Pum Munud' ac 'Yr Haint' yn senglau, tyfodd poblogrwydd y grŵp - a sylw'r cyfryngau Cymraeg. Yna, o dan oruchwyliaeth a chymorth eu hathro Tony Schiavone, llwyddodd yr hogiau i ryddhau casét o'r enw Dan y Cownter a werthodd fel tân. Roedd eu poblogrwydd yn amlwg ac yn ystod 1987 ymunodd y grŵp â label Sain gan ryddhau EP chwe thrac o'r enw Y Testament Newydd.

Yn 1988 gadawodd y drymiwr Dylan Hughes y band er mwyn ymuno â grŵp Yr Anhrefn, ac yn ei le daeth Mark Kendall. Yn ystod yr un flwyddyn rhannodd y band lwyfan gyda The Alarm gan berfformio o flaen 1,500 o bobl ym Mae Colwyn. Penderfynodd y grŵp i ryddhau EP arall o'r enw Y Cyrff, ond y tro hwn o dan eu label eu hunain. Yr EP hwn oedd yn cynnwys y trac 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' sydd bellach yn cael ei ystyried yn glasur o anthem.

Daeth y label Ankst yn gartref recordio i'r band yn 1989 a llwyddwyd i boblogeiddio enw'r band y tu allan i ffiniau Cymru. Yn 1991 rhyddhaodd y band eu LP gyntaf Llawenydd Heb Ddiwedd a dderbyniodd ganmoliaeth fawr yng Nghymru a thu hwnt.

Er holl lwyddiant Y Cyrff, gwahanodd y band yn 1992. Rhyddhawyd Mae Ddoe yn Ddoe, sy'n cynnwys goreuon y band o'r 80au hyd nes iddynt wahanu. Wedi hynny, aeth dau aelod o'r Cyrff - Mark Roberts a Paul Jones - ymlaen i brofi enwogrwydd byd-eang gyda Catatonia.

Yn 2005, rhyddhawyd cyfrol adolygol o waith Y Cyrff, sef Atalnod Llawn 1983-9. Cynhaliwyd tair gig i ddathlu'r achlysur yng Nghaerdydd, Llundain ac yn Llanrwst gydag artistiaid megis Kentucky AFC, Alun Tan Lan, Dan Amor a Jen Jeniro yn chwarae caneuon Y Cyrff. Roedd yn ddigwyddiad melys ac eto'n chwerw, gan fod y digwyddiad wedi ei gynnal bron pum mlynedd ers marwolaeth gitarydd Y Cyrff, Barry Cawley.

Disgograffi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Llawenydd Heb Ddiwedd..... BBC Cymru: C2.

Dolenni allanol golygu