Llwybr Llaethog (band)
Band dawns arbrofol Gymraeg yw Llwybr Llaethog, sy'n cymysgu genres megis rap, dub, reggae, hip hop a pync yn eu cerddoriaeth.
Enghraifft o'r canlynol | cynulliad cerddorol, band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dod i'r brig | 1985 |
Sefydlwyd yn Llundain, yn 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford. Dylanwadwyd y ddau gan gerddoriaeth reggae a pync y 70au. Wedi sawl cais anllwyddiannus i greu band, cafodd John Griffiths ei ail-ysgogi tra ar wyliau yn Efrog Newydd yn 1984.[1] Roedd grŵp o bobol ifanc mewn clwb nos breakdancing, a seiniau DJ Red Alert wedi gadael argraff cryf arno.
Wedi dychwelyd i Gymru, roedd Griffiths yn benderfynol o briodi cerddoriaeth hip hop a gwleidyddiaeth y chwith eithafol gyda'r iaith Gymraeg. Daeth EP cyntaf Llwybr Llaethog, Dull Di Drais, allan ar label Anhrefn yn 1986.
Disgograffi
golyguSenglau
golygu- Dull Di-Drais 7" - Anhrefn (1986)
- Tour De France 7" - Anhrefn (1987)
- Pam? 12" - Pinpoint Records (1988)
- Ni Fydd Y Chwyldro... 7" - Ankst (1992)
- Soccer MC 12" - Ankst (1996)
- Mera Desh 7" - Ankst (1997)
- Llanrwst (Yn cynnwys samplau Y Cyrff, Cymru, Lloegr a Llanrwst) - Fitamin Un (2001)
Albymau
golygu- Da! - Side Effects (1988)
- Be? - Pinpoint Records (1990)
- LL. LL. v T.G. - Ankst (1991)
- Mewn Dyb (In Dub) - ROIR (1991)
- Mad - Ankst (1996)
- Drilacila-(Croeso'99) - Ankst (1999)
- Hip Dub Reggae Hop - Ankst (2000)
- Stwff - Neud Nid Deud (2001)
- Anomie-Ville - Crai (2002)
- Mega Tidy - Rasal (2005)
- Curiad Cariad (Rhagfyr 2011, Neud nid Deud)
- Chwaneg - Neud Nid Deud NND003
- Dub Cymraeg - Neud Nid Deud NND006
- I'r Dim - Neud Nid Deud NND007
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wales Music : Llwybr Llaethog. BBC (30 Gorffennaf 2009).