Gobi
(Ailgyfeiriad o Anialwch Gobi)
Anialwch yng Nghanolbarth Asia yw'r Gobi. Mae ganddo arwynebedd o tua 1,295,000 km² (500,000m²).
Math | anialwch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia |
Arwynebedd | 2,354,460 km² |
Uwch y môr | 1,547 metr |
Cyfesurynnau | 42.5°N 103°E |
Hyd | 1,500 cilometr |
Mae'r Gobi'n ymestyn trwy rannau sylweddol o dde-ddwyrain Mongolia a gogledd Tsieina. Wedi'i lleoli ar lwyfandir 900-1500m uwchben lefel y môr, mae'n anialwch creigiog yn bennaf, gyda sawl ardal o gorsdir hallt a ffrydiau bychain sy'n diflannu i'r tywod ar ôl rhedeg cwrs byr.
Mae rhannau o'r Gobi'n gyfoethog mewn safleoedd archaeolegol a gweddillion cynhanesyddol fel ffosilau ac offer carreg.