Anita Augspurg
Ffeminist o'r Almaen oedd Anita Augspurg (22 Medi 1857 - 20 Rhagfyr 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actores, gwleidydd, cyfreithiwr, swffragét a ffeminist. Roedd hefyd yn heddychwr cadarn.
Anita Augspurg | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1857 Verden (Aller) |
Bu farw | 20 Rhagfyr 1943, 20 Chwefror 1943 Zürich |
Man preswyl | München |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, gwleidydd, cyfreithiwr, actor llwyfan, swffragét, ymgyrchydd heddwch, golygydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, cyfreithegwr, awdur, gwrthryfelwr milwrol |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Free-minded People's Party |
Mudiad | ffeministiaeth |
Partner | Lida Gustava Heymann |
Perthnasau | Amalie Augsburg |
Fe'i ganed yn Verden (Aller) a bu farw yn Zürich, lle claddwyd hi ym Mynwent Fluntern.[1][2][3][4][5]
Magwraeth ac actio
golyguRoedd yn ferch i gyfreithiwr, ac yn ystod ei llencyndod, gweithiodd Augspurg yn swyddfa'i thad nes iddi droi'n oedolyn. Yn Berlin cwblhaodd gwrs hyfforddi athrawon ar gyfer addysgu mewn colegau menywod a chymerodd hefyd ddosbarthiadau actio. O 1881 i 1882 roedd yn brentis i Ensemble Meiningen, a chymerodd ran mewn cyngerddar ledled yr Almaen, yr Iseldiroedd a Lithwania. Gadawodd ei mam-gu (ar ochr ei mam), waddol sylweddol iddi pan fu farw yn 1887, a roddodd iddi ei hannibynnol yn ariannol.
Yn 1887, ar ôl gyrfa bum mlynedd fel actores, aeth gyda'i ffrind Sophia Goudstikker i Munich, lle agorodd stiwdio ffotograffiaeth, yr "Hofatelier Elvira". Roedd gan y ddwy ferch wallt byr, dillad anghonfensiynol, ac yn aml yn mynegi eu cefnogaeth i'r frwydr dros ryddhau menywod yn gyhoeddus. Oherwydd y ffordd o fyw anarferol yma, roedd Augspurg yn agored i ymosodiadau personol gan wrth-ffeministiaid yn llawer mwy na phersonoliaethau eraill o fewn mudiad y merched. Serch hynny, gwnaeth ei chysylltiadau llwyfan a stiwdio hi'n adnabyddus yn gyflym, a chyn hir roedd y teulu brenhinol yn Bafaria yn un o'i chwmeriaid.
Erbyn 1890, roedd Augspurg yn ymwneud â mudiad hawliau menywod yr Almaen ac yn siaradwr cyhoeddus. Arweiniodd ei hymrwymiad i hawliau menywod iddi benderfynu, i astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith. Mynychodd Brifysgol Zurich, y Swistir, gan nad oedd gan fenywod yn yr Almaen yr hawl i gael eu derbyn gan brifysgolion. Cafodd berthynas storms gyda Rosa Luxemburg, a chydsefydlodd y Gymdeithas Myfyrwyr Benywaidd Rhyngwladol (Almaeneg: Internationaler Studentinnenverein). Cwblhaodd ei hastudiaethau gyda doethuriaeth yn 1897, doethor yn y gyfraith gyntaf yr Ymerodraeth Almaenig. Fodd bynnag, ni allai ymarfer fel cyfreithiwr, gan na chaniateid hynny.
Bu'n aelod o Blaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Bwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol am rai blynyddoedd. [6]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Anita Augspurg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Augspurg". "Anita Augspurg". ffeil awdurdod y BnF. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Anita Augspurg". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Augspurg". "Anita Augspurg". ffeil awdurdod y BnF. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.