Lida Gustava Heymann
Awdures o'r Almaen a'r Swistir oedd Lida Gustava Heymann (15 Mawrth 1868 - 31 Gorffennaf 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, heddychwr ac ymgyrchydd dros heddwch.
Lida Gustava Heymann | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mawrth 1868 Hamburg |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1943 Zürich |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, ymgyrchydd heddwch, golygydd |
Partner | Anita Augspurg |
Fe'i ganed yn Hamburg, yr Almaen ar 15 Mawrth 1868; bu farw yn Zürich, Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Fluntern. [1][2][3][4][5]
Roedd Lida Gustava Heymann yn un o ffeministiaid mwyaf blaenllaw mudiad menywod ymhlith uchelwyr yr Almaen, yn enwedig y Cymdeithas Grwpiau Menywod (Almaeneg: Verband Fortschrittlicher Frauenvereine), law yn llaw gyda'i phartner Anita Augspurg. Yn wir, yn 1902, gydag Anita sefydlodd, ar droad y ganrif, gymdeithas etholfraint, er mwyn ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio: Cymdeithas yr Almaen dros Hawliau Pleidleisio i Fenywod (Almaeneg: Deutscher Verband für Frauenstimmrecht). Hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ddwy wedi dylanwadu'n drwm ar y mudiad etholfraint menywod yr Almaen. [6][7]
Yn Hamburg, cyn troad y ganrif, roedd eisoes wedi sefydlu canolfan merched gydag arian a etifeddodd gan ei theulu, canolfan a oedd yn cynnig cinio i fenywod sy'n gweithio, yn ogystal â meithrinfa ddydd, i fabanod, a chanolfan gwnsela. Yn ddiweddarach daeth yn gyd-sylfaenydd ysgol uwchradd gymysg a chymdeithasau proffesiynol sefydledig ar gyfer gweithwyr masnachol benywaidd ac ar gyfer artistiaid llwyfan.
Fel cyd-sylfaenydd y mudiad gwahardd alcohol yn yr Almaen, daeth wyneb-yn-wyneb â'r gyfraith pan fu'n protestio yn Hamburg yn erbyn trin puteiniaid ac ymgyrchodd yn erbyn puteindra gan y wladwriaeth. Gydag Anna Pappritz yn Berlin, sefydlodd gangen o'r Ffederasiwn Diddymwyr Rhyngwladol, yn Hamburg.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Bwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- In Brühl (Rheinland) ist eine Straße nach Heymann benannt.[8]
- Die Stadt Zürich ließ auf dem Friedhof Fluntern zu Ehren von Heymann und Augspurg am 20.
- Augspurg-Heymann-Preis der Landesarbeitsgemeinschaft Lesben in Nordrhein-Westfalen von 2009 bis 2015
Rhai cyhoeddiadau
golygu- Das kommunale Wahlrecht der Frauen im Deutschen Reiche. Kastner und Callwey Verlag, München 1910.
- Wird die Mitarbeit der Frauen in den politischen Männerparteien das Frauenstimmrecht fördern? Dietrich Verlag, Leipzig 1911.
- Frauenstimmrecht und Völkerverständigung. Leipzig 1919.
- Erlebtes - Erschautes. Deutsche Frauen kämpfen für Freiheit, Recht und Frieden, 1850-1940 ; ISBN=3927164437
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Man geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ [1] [2]