Y Cyngor Prydeinig
Corfforaeth gyhoeddus ac elusen gofrestredig a chanddi Siarter Frenhinol yw'r Cyngor Prydeinig (Saesneg: British Council) sydd yn hyrwyddo diwylliant y Deyrnas Unedig a'r iaith Saesneg mewn gwledydd tramor ac yn cynnig cydweithio rhyngwladol ym meysydd y celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg, ac addysg. Mae ganddo hefyd statws corff cyhoeddus di-adran gweithredol (NDPB) a noddir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Lleolir ei bencadlys yn Sgwâr Trafalgar, Llundain. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, sefydliad addysgol, sefydliad ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1934 ![]() |
Prif weithredwr | Ciarán Devane ![]() |
Sylfaenydd | Llywodraeth y Deyrnas Unedig ![]() |
Aelod o'r canlynol | European Film Promotion ![]() |
Gweithwyr | 9,624, 10,596, 10,677, 10,963, 11,523 ![]() |
Isgwmni/au | British Council Czech Republic ![]() |
Ffurf gyfreithiol | menter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, corff cyhoeddus anadrannol ![]() |
Pencadlys | Llundain ![]() |
Enw brodorol | British Council ![]() |
Gwefan | https://www.britishcouncil.org ![]() |
![]() |
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
golyguMae'r Cyngor Prydeinig yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol