Ann Allebach
Ffeminist Americanaidd oedd Ann Jemima Allebach (8 Mai 1874 - 27 Ebrill 1918) sydd hefyd yn cael ei chofio fel swffragét, gweinidog, ac addysgwr. Hi oedd y fenyw gyntaf a urddwyd yn weinidog Mennonite yng Ngogledd America, a hynny ar Ionawr 15, 1911. Nid urddwyd menyw Mennonite arall tan 1973.[1][2]
Ann Allebach | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1874 Montgomery County, Green Lane |
Bu farw | 27 Ebrill 1918 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | swffragét, gweinidog bugeiliol, pregethwr, sunday school teacher, gweithiwr cymdeithasol, gweinyddwr academig |
Fe'i ganed yn Montgomery County a bu farw yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Columbia a Choleg Diwynyddol Union.
Allebach oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei dewis o Kings County, Efrog Newydd, i fod yn aelod o gonfensiwn gwleidyddol cenedlaethol. Fe'i dewiswyd ar gyfer Confensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol 1912 (iaith wreiddiol: Republican National Convention) a gynhaliwyd yn Chicago ond ni chaniatawyd iddi fod yn bresennol gan ei bod yn ferch. Roedd yn ddirprwy o'r Eighteenth Assembly District o Gynulliad Gwladol y Blaid Flaengar yn Syracuse.[3]
Magwraeth a choleg
golyguGanwyd Allebach ar Fai 8, 1874 [2] yn Montgomery County, Pennsylvania, a chafodd ei magu ger Schwenksville.[4] Ei rhieni oedd Sarah Markley Allebach a Jacob R. Allebach, a oedd yn fanciwr ac yn bostfeistr. Pan oedd yn blentyn, sefydlodd siaptr o Young People's Society of Christian Endeavour yn ei thref enedigol.[1]
Yn 1893, daeth yn brifathro ysgol yn East Orange, New Jersey, a dechreuodd astudio yng Ngholeg Ursinus, Prifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Columbia, ac Undeb Diwinyddol Seminary.[1] Yn dilyn ei hastudiaethau, bu'n dysgu yn Perkiomen Seminary yn Pennsburg, Pennsylvania.[4]
Hawliau merched
golyguWedi iddi ddychwelyd i Ddinas Efrog Newydd, anerchodd ei phobl am hawl menywod i bregethu, a'r hawl i fenywod i bleidleisio, sef yr hyn a elwir yn etholfraint. Yn Brooklyn, pregethodd yn Eglwys y Bedyddwyr, Marcy Avenue rhwng 1913 a 1915. Bu hefyd yn gweinidogaethu'r tlawd, a gofynnodd Maer Efrog Newydd iddi drefnu cynhadledd ar grefydd a gwasanaethau cymdeithasol. Gwahoddwyd hi'n aml i ddychwelyd i Pennsylvania i bregethu. Yn 1916, fe'i galwyd i fod yn weinidog ar gyfer Eglwys Ddiwygiedig Sunnyside ar Long Island.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Fretz 1990.
- ↑ Skinner Keller 2006, t. 268.
- ↑ The Brooklyn Daily Eagle 1913, t. 15.
- ↑ 4.0 4.1 The Reading Eagle 1911, t. 14.