Ann Griffiths (telynores)

telynores o Gymru

Telynores o Gymru oedd Ann Griffiths (26 Hydref 193424 Gorffennaf 2020).[1]

Ann Griffiths
Ganwyd26 Hydref 1934 Edit this on Wikidata
Caerffili Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
Rhaglan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Nghaerffili ym 1934. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd cyn astudio'r delyn yn Conservatoire de Paris, lle enillodd ei Premier Prix ym 1958. Ym 1959 daeth yn brif delynores gyda'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, yn ogystal â dechrau gyrfa ryngwladol fel unawdydd cyngerdd. Roedd hi'n bennaeth adran y delyn yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, nes iddi ymddeol ym 1979.

Cyhoeddodd nifer o gyfansoddiadau ar gyfer y delyn, gan gynnwys trefniannau o ganeuon gwerin Cymru, yn ogystal â llawlyfr hyfforddi, Saith Gwers i Ddechreuwyr (1964). Cyhoeddodd nifer o erthyglau am hanes y delyn a thelynorion. Un arall o'i diddordebau ymchwil oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ac roedd hi'n Gadeirydd Cymdeithas Gwnynen Gwent (Lady Llanover Society). Gyda’i gŵr, Dr Lloyd Davies (1923–2002), sefydlodd y cwmni Adlais Music Publishers.

Bu farw gartref yn Rhaglan, Sir Fynwy yn 2020.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Caryl Thomas, "Remembering Ann Griffiths (1934–2020)", Harp Column; adalwyd 21 Hydref 2021