Ann Maddocks
gorfodwyd hi i briodi
Merch o Gefn Ydfa, Llangynwyd, Sir Forgannwg, yn awr bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd Ann Maddocks, cyn priodi Ann Thomas (Mai 1704 - Mehefin 1727), sy'n fwy adnabyddus fel y Ferch o Gefn Ydfa. Yn ôl traddodiad, hi oedd testun y gân adnabyddus Bugeilio'r Gwenith Gwyn.
Ann Maddocks | |
---|---|
Portread o'r 19g | |
Ganwyd | 1704 Cefn-ydfa |
Bu farw | 1727 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awen |
Priododd Ann ac Anthony Maddocks yn 1725. Yn ôl traddodiad, roedd mewn cariad a'r bardd Wil Hopcyn, a gorfodwyd hi i briodi Maddocks. Dywedir i Hopcyn gyfansoddi Bugeilio'r Gwenith Gwyn iddi, ac iddi farw o dor-calon ar ôl priodi Maddocks.
Llyfryddiaeth
golygu- Isaac Hughes (Craigfryn), Y Ferch o Gefn Ydfa (1881). Nofel boblogaidd a gyhoeddwyd yn Saesneg hefyd.