Bardd Cymreig a oedd, yn ôl Iolo Morganwg, yn awdur y gân adnabyddus Bugeilio'r Gwenith Gwyn oedd Wiliam Hopcyn, mwy adnabyddus fel Wil Hopcyn (1700 - 1741).

Wil Hopcyn
Ganwyd1700 Edit this on Wikidata
Bu farw1741 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Llangynwyd, Tir Iarll, Sir Forgannwg, yn awr bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cofnodir iddo gyfansoddi cerdd o sen i'r prydyddion yn eisteddfod y Cymer yn 1735.

Ffugiad Iolo golygu

Iolo Morganwg a honodd iddo gyfansoddi Bugeilio'r Gwenith Gwyn, a datblygwyd y stori ymhellach gan ei fab, Taliesin ab Iolo. Dywedir fod Wil Hopcyn mewn cariad ag Ann Thomas, mwy adnabyddus fel y Ferch o Gefn Ydfa. Yn ôl traddodiad, gorfodwyd Ann i briodi Anthony Addocks yn erbyn ei hewyllys, a bu farw o dor-calon yn fuan wedyn. Hi oedd testun y gân adnabyddus Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Dywedir i Hopcyn gyfansoddi Bugeilio'r Gwenith Gwyn iddi. Ond mae'r ysgolhaig G. J. Williams wedi profi mai un o ffugiadau llenyddol niferus Iolo Morganwg yw'r fersiwn o'r gân a dadogir ganddo ar Wil Hopcyn. Ailwampiodd hen gân werin a oedd yn sôn am "fugeilio'r gwenith gwyn" ac ychwanegodd ati ac yna honni mai Wil Hopcyn a'i gyfansoddodd. Dengys y dystiolaeth mae rhan o brosiect arfaethedig gan Iolo i lunio cyfrol gyfan o gerddi serch wedi eu priodoli i Wil Hopcyn oedd hyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. G. J. Williams, Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956), tt. 303-4.