Ann Rees (Ceridwen)

bardd a meddyg Cymreig

Roedd Ann Rees (Ceridwen) (9 Gorffennaf 187419 Hydref 1905) yn fardd ac yn llenor Cymraeg ac yn un o'r menywod Cymreig cynharaf[1] i gymhwyso yn feddyg.

Ann Rees
Ganwyd9 Gorffennaf 1874 Edit this on Wikidata
Pentre Gwenlais Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1905 Edit this on Wikidata
New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeddyg, bardd, llenor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Ann Rees ym Mhentre Gwenlais ger Landybie yn ferch i Edwin Rees, llafurwr, a Mary E. Rees (née Davies) ei wraig. Roedd ei theulu yn aelodau amlwg o enwad yr Undodiaid. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gwynfryn, Rhydaman, ysgol a oedd yn cael ei gadw gan Watcyn Wyn[2] ac a ddaeth yn enwog am y nifer o feirdd a llenorion a addysgwyd yno.

Bardd a llenor

golygu

Roedd Ceridwen yn dod o deulu llengar amlwg ar ochr ei mam. Roedd Mary Rees yn barddoni o dan yr enw Dyffrynferch[3]. Roedd ei thaid Job Davies, Rhydderch Farfgoch, (1821 - 1887) yn fardd ac eisteddfodwr amlwg yn ei ddydd ac roedd y bardd a'r baledwr John Thomas (Ifor Cwmgwys), (1813 - 1866 ) yn ewythr iddi[4]'; roedd Ieuan Ddu Alltwen hefyd yn aelod o'i theulu[5]. Dysgodd Ann y gynghanedd a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ac yn cyfrannu i gylchgronau Y Drych a Cymru. Cafodd ei derbyn yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tudful 1901 gan ddefnyddio'r enw barddol Ceridwen.

Meddyg

golygu

Ym 1893 ymfudodd Ceridwen i New Jersey, UDA lle'r oedd ei ewyrth a'i modryb yn byw. Cofrestrodd fel disgybl yng Ngholeg Meddygol y Merched yng Nghlafdy Efrog Newydd lle graddiodd MD ym 1898. Sefydlodd practis meddygol llwyddiannus yn New Jersey.

Marwolaeth

golygu

Ym mis Medi 1905 dychwelodd Ceridwen i Gymru i ymweld â'i theulu gan wario 3 wythnos yn Llandybie cyn dychwelyd ar long i'r America. Tra ar y llong cymerwyd hi'n sâl gyda haint ar y frest, trodd yr haint yn niwmonia a bu farw yn ei chartref yn New Jersey 5 niwrnod ar ôl cyrraedd tir yn 31 mlwydd oed. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Fairview[6].

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cymru Cyf 55, 1918 Pen yr Yrfa adalwyd 23 Ionawr 2018
  2. Cymru Cyfrol 31, 1906 Ann adalwyd 23 Ionawr 2018
  3. "WELSH LADY DOCTOR - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1905-12-23. Cyrchwyd 2018-01-22.
  4. Y Bywgraffiadur THOMAS, JOHN (‘ Ifor Cwmgwys ’; 1813 - 1866 ), bardd adalwyd 23 Ionawr 2018
  5. Y Casglwr Ieuan Ddu Alltwen - Huw Walters adalwyd 23 Ionawr 2018
  6. Yr ymofynydd Cyf. V rhif. 12 - Rhagfyr 1905 ANN CERIDWEN REE5, MD adalwyd 23 Ionawr 2018