Americanes sy'n wraig i'r dyn busnes a'r gwleidydd Mitt Romney yw Ann Lois Romney (née Davies) (ganwyd 16 Ebrill 1949). Hi oedd Prif Foneddiges Massachusetts o 2003 hyd 2007, pan oedd ei gŵr yn Llywodraethwr y dalaith honno.

Ann Romney
GanwydAnn Lois Davies Edit this on Wikidata
16 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Bloomfield Hills Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Brigham Young
  • Harvard Extension School
  • Cranbrook Educational Community
  • Cranbrook Schools Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwraig tŷ Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadEdward Roderick Davies Edit this on Wikidata
PriodMitt Romney Edit this on Wikidata
PlantTagg Romney Edit this on Wikidata
Ann Romney yn 2011.

Dyn busnes Cymreig o Gaerau ger Pen-y-bont ar Ogwr oedd ei thad, Edward R. Davies, ac ymfudodd i Bloomfield Hills, Michigan. Roedd hefyd yn faer y ddinas honno.

Yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid Weriniaethol yn Tampa, Fflorida, yn Awst 2012 anerchodd Ann Romney y gynhadledd wedi i'w gŵr gael ei enwebu fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Nantyffyllon yn cael sylw yn enwebiad Romney. Golwg360 (29 Awst 2012). Adalwyd ar 2 Medi 2012.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.