Mitt Romney
Gwleidydd ac entrepreneur o'r Unol Daleithiau a fu'n Llywodraethwr talaith Massachusetts o 2003 hyd 2007 yw Willard Mitt Romney (ganwyd 12 Mawrth 1947)[1]. Ef oedd ymgeisydd y Blaid Weriniaethol yn etholiad arlywyddol 2012, a chollodd i'r deiliad Barack Obama.
Mitt Romney | |
| |
70fed Llywodraethwr Massachusetts
| |
Cyfnod yn y swydd 2 Ionawr, 2003 – 4 Ionawr 2007 | |
Rhagflaenydd | Paul Cellucci |
---|---|
Olynydd | Deval Patrick |
Geni | 12 Mawrth, 1947 Detroit, Michigan |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethol |
Priod | Ann Romney |
Plant | Taggart, Matthew, Joshua, Benjamin, Craig |
Alma mater | Prifysgol Stanford, Prifysgol Brigham Young, Prifysgol Harvard |
Crefydd | Mormoniaeth |
Llofnod |
Mab Leonore a George W. Romney (Llywodraethwr Michigan, 1963-1969) yw Mitt Romney. Ym 1969 priododd Ann Davies. Ym 1971, graddiodd gyda gradd Baglor y Celfyddydau gan Brifysgol Brigham Young ac, ym 1975, gyda Juris Doctor a Meister Gweinyddu Busnes oddi wrth Prifysgol Harvard. Yn 2002 cafodd ei ethol yn llywodraethwr talaith Massachusetts.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Home sweet home? Michigan primary a challenge for Romney'; papur newydd: USA Today Archifwyd 2012-07-03 yn y Peiriant Wayback 20 Chwefror 2012
- ↑ Romney Gains Momentum As He Keeps On Running; awdur: Gell, Jeffrey N.; papur newydd: The Harvard Crimson; dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 1994.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Mitt Romney Archifwyd 2012-09-20 yn y Peiriant Wayback
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.