Anna Branting
Awdures a newyddiadurwr o Sweden oedd Anna Branting (19 Tachwedd 1855 - 11 Rhagfyr 1950). Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur gan iddi briodi Prif Weinidog Sweden, Hjalmar Branting, ac roedd yn aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden. Rhwng y 1880au ac 1917 gweithiai fel beirniad theatr, gan gyhoeddi ei beirniadaeth mewn papurau yn Stockholm dan y llysenw "Réne". Roedd yn perthyn i'r genhedlaeth gyntaf o fenywod i gael swyddi yn y byd newyddiadurol.[1]
Anna Branting | |
---|---|
Ganwyd | Anna Matilda Charlotta Jäderin 19 Tachwedd 1855 Dinas Stockholm, Klara Parish |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1950 Gustav Vasa |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | awdur, llenor, newyddiadurwr |
Swydd | Spouse of the Prime Minister of Sweden, Spouse of the Prime Minister of Sweden, Spouse of the Prime Minister of Sweden |
Plaid Wleidyddol | Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden |
Priod | Hjalmar Branting |
Plant | Georg Branting, Sonja Branting-Westerståhl, Vera von Kræmer, Henry von Kræmer |
Ganed Anna Matilda Charlotta Branting née Jäderinyn Stockholm, Sweden ar 19 Tachwedd 1855, bu hefyd farw yno ac fe'i claddwyd ym Mynwent Eglwys Adolf Fredrik.[2][3][4][5][6][7][8]
Magwraeth
golyguCharlotta Gustava Holm, gwraif tŷ oedd ei mam ac arolygydd gyda'r heddlu oedd ei thad, Erik Jäderin. Cafodd ei haddysgu yn Athrofa Brenhinol Pellach i Fenywod (neu'r Kungliga Högre Lärarinneseminariet), rhwng 1868 a 1872.
Priododd yr is-gapten Gustav Vilhelm von Kraemer (1851-1884) yn 1877, ond ysgarodd y ddau yn 1883. Priododd eilwaith, y tro hwn i Hjalmar Branting yn 1884 ac ni chawsant blant. [9]
Gwaith
golyguRoedd yn newyddiadurwr yn y papurau:
- Tiden - 1884—1886
- Socialdemokraten - 1886—1892
- Stockholmstidningen - 1892—1909
- Socialdemokraten - 1913—1917.
Dechreuodd weithio fel cyfieithydd ar ôl ei ysgariad gyda von Kraemer a chafodd swydd newyddiadurwr gyda Branting, a ddaeth i fod yn ail briod iddi: ar ôl iddo golli ei ffortiwn, Anna oedd cefn ariannol y teulu. O 1892 cafodd yrfa lwyddiannus fel beirniad theatr, roedd yn cael ei pharchu a'i hofni oherwydd ei hadolygiadau miniog a ffraeth.
Nofelydd
golyguCyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1893. Themna ei nofelau yw dadl y dydd: y ddadl neu'r anghytuno rhwng y ferch fodern a chymdeithas. Yn ei llyfrau mae'r ferch yn hynod o rwystredig gan ei bod yn cael ei dal yn ôl gan gymdeithas hŷn, ac yn ceisio ymryddhau o hualau traddodiadau cyfyng iawn.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o 'Gartref y Swedeg' a Chymdeithas Cyhoeddwyr Sweden (neu'r Publicistklubben, o 1885).
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Berger, Margareta, Pennskaft: kvinnliga journalister i svensk dagspress 1690-1975 [Menywod mewn Newyddiaduraeth 1690-1975], Norstedt, Stockholm, 1977
- ↑ Cyffredinol: http://kulturnav.org/83e14dc5-3bfa-4f74-af80-051789f1d4e1. dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016. dyddiad cyrchiad: 27 Chwefror 2016. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Disgrifiwyd yn: John Landquist. "Anna M C Branting (f. Jäderin)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866. tudalen: 39. dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016. "Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker". dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Rhyw: http://kulturnav.org/83e14dc5-3bfa-4f74-af80-051789f1d4e1. dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016. dyddiad cyrchiad: 27 Chwefror 2016. "Anna Mathilda Charlotta Branting" (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Dyddiad geni: John Landquist. "Anna M C Branting (f. Jäderin)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866. tudalen: 39. dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016. "Klara kyrkoarkiv, Dopböcker över äkta barn, SE/SSA/0010/C I b/9 (1851-1861), bildid: C0056125_00102". t. 114. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
Anna Mathilda Charlotta, Poliskommisarien ?? Jädrin H(ustru) Gustava Carlotta? Holm....
"Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker". dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020. - ↑ Dyddiad marw: John Landquist. "Anna M C Branting (f. Jäderin)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866. tudalen: 39. dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016. "Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker". dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020.
- ↑ Man geni: "Namn: Anna Matilda Branting /f Jäderin/ Titel: Hustru Födelseuppgifter: 1855-11-19 (Klara),". Cyrchwyd 10 Ebrill 2018. "Klara kyrkoarkiv, Dopböcker över äkta barn, SE/SSA/0010/C I b/9 (1851-1861), bildid: C0056125_00102". t. 114. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
Anna Mathilda Charlotta, Poliskommisarien ?? Jädrin H(ustru) Gustava Carlotta? Holm....
"Anna Matilda Charlotta, f. 1855 i Klara Stockholms stad". Cyrchwyd 12 Ebrill 2018. - ↑ Man claddu: "HANS HUSTRU ANNA BRANTING FÖDD 19.11 1855 DÖD 11.12 1950". Cyrchwyd 9 Mai 2018.
- ↑ Galwedigaeth: "Anna Mathilda Charlotta Branting" (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2020. John Landquist. "Anna M C Branting (f. Jäderin)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866. tudalen: 39. dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016. John Landquist. "Anna M C Branting (f. Jäderin)". dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866. tudalen: 39. dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016.