Anna Frater
Bardd yn yr iaith Aeleg yw Anna Frater. Erbyn heddiw mae hi'n ddarlithwraig ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd yn yr Alban.
Anna Frater | |
---|---|
Ganwyd | 5 Gorffennaf 1967, 1967 Steòrnabhagh |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Arddull | barddoniaeth |
Ganwyd hi yn Stornoway, Ynys Lewis (Ynysoedd Heledd) ym 1967. Gaeleg yw ei phrif iaith ac iaith ei barddoniaeth. Mae hi wedi cyhoeddi yn y cylchgrawn Gairm ers 1986. Graddiod mewn Ffrangeg a Cheltaidd ym 1990. Cwblhaodd PhD ym Mhrifysgol Glasgow yn 1995 ar farddoniaeth Aeleg gan ferched hyd at 1750.
Cyhoeddwyd gasgliad o'i gwaith, Fon t-Slige ('Dan y Gragen') gan Gairm yn 1995.
Prif themau gwaith Anna Frater yw cariad, iaith a gwleidyddiaeth. Ceir un cyfieithiad yn y Gymraeg;
- Ein Hiaith a'n Brethyn cerdd Ar Cànan 's ar Clò gan Anna Frater. Cyfieithiad gan Cennard Davies. Taliesin, cyf 128, Haf 2006.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Bywgraffiad Archifwyd 2007-10-19 yn y Peiriant Wayback