Anna Gabriel i Sabaté
Cymdeithasegydd, addysgwr ac Athro Prifysgol o Gatalwnia yw Anna Gabriel i Sabaté (Sallent, Catalwnia, 1975) ac aelod o Lywodraeth Catalwnia o 2015 hyd at 2017. Mae'n cynrychioli plaid gwrth-gyfalafol a thros-annibyniaeth - y CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd (y Candidatura d'Unitat Popular).[1][2]
Anna Gabriel i Sabaté | |
---|---|
Ganwyd | Anna Gabriel i Sabaté 13 Medi 1975 Sallent de Llobregat |
Man preswyl | Genefa |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, constitutional lawyer, social educator |
Swydd | city councillor of Sallent, Aelod o Senedd Catalwnia |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd |
Mam | Maribel Sabaté |
llofnod | |
Magwraeth ac addysg
golyguFe'i ganed yn 1975 i deulu o fwynwyr ac hyrwyddwyr undebau llafur, yn nhref gweithiol Sallent de Llobregat, 70 km i'r gogledd o Farcelona. Astudiodd y gyfraith a chychwynodd weithio fel darlithydd yn yr adran hanes y gyfraith, ym Mhrifysgol Annibynnol Barcelona. Cychwynodd ymhel â gwleidyddiaeth pan oedd yn 16 oed pan ymunodd gyda sawl llwyfan gwrth-ffasgiaidd.[3]
Gwleidyddiaeth
golyguGweithiodd am ychydig fel llefarydd yr ymgyrch dros annibyniaeth "Independència per canviar-ho tot" ("Annibyniaeth i Newid Popeth") a bu'n gynghorydd Cyngor Dinas Sallent rhwng 2003 a 2011. Cynrychiolodd y CUP yn etholiad Cyffredinol Sbaen yn 2004.[4] Yn nhymor seneddol 2012-2015 gweithiodd fel cydgysylltydd grwp seneddol y CUP.
Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 fe'i hetholwyd yn ddirprwy dinas Barcelona ac am ddwy flynedd hi oedd llefarydd y blaid, yn genedlaethol.[5]
Wedi Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan anafwyd dros fil o Gatalwniaid gan heddlu Sbaen, galwyd Anna Gabriel i Sabaté i Uwch-lys Sbaen i roi tystiolaeth ynghylch ei gwaith a'i chyfraniad i'r digwyddiadau hyn.[1][3]. Ar 20 Chwefror dywedodd mewn cyfweliad gyda Le Temps nad oedd ganddi unrhyw fwriad i fynd i'r llys ac y byddai'n mynd i'r Swistir.[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Separatist from Catalonia seeks Swiss advice". SWI swissinfo.ch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-19.
- ↑ Burgen, Stephen (2017-12-23). "Catalonia's hopes for peace stall as further wave of arrests feared". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-19.
- ↑ 3.0 3.1 Allemand, Andrés (Feb 19, 2018). "La Catalane Anna Gabriel ouvre un nouveau front diplomatique à Genève". Cyrchwyd 19 Chwefror 2018.[dolen farw]
- ↑ "Anna Gabriel Sabaté (Sallent): ?Som una prova pilot, un laboratori: la fórmula CUP s?està inventant?". Cop de CUP (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2018-02-19.
- ↑ Liste, Ana González (2015-07-31). "Baños : "La CUP sí pactará para romper con el Estado"". El País (yn Sbaeneg). ISSN 1134-6582. Cyrchwyd 2018-02-19.
- ↑ [1] www.ara.cat;] adalwyd 20 Chwefror 2018.