Anna Maria Bennett
Roedd Anna Maria Bennett (tua 1750[1] - 12 Chwefror 1808) yn nofelydd o Loegr. Mae rhai ffynonellau yn rhoi ei henw fel Agnes Maria Bennett.
Anna Maria Bennett | |
---|---|
Ganwyd | Anna Maria Evans 13 Tachwedd 1746 Merthyr Tudful |
Bu farw | 12 Chwefror 1808 Brighton |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Cymru, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor |
Partner | Thomas Pye |
Plant | Harriet Esten |
Ei gwaith mwyaf adnabyddus yw'r nofel epistolari Agnes de-Courci (1789).
Teulu
golyguMae'n debyg y cafodd Anna ei geni ym Merthyr Tudful, Sir Forgannwg, Cymru, yn ferch i David Evans, a ddisgrifir yn amrywiol fel swyddog tollau neu groser. Bu'n briod am gyfnod byr â'r swyddog tollau Thomas Bennett, ond tra'n gweithio mewn siop siandler ar ôl symud i Lundain, cwrddodd â'r Is-Lyngesydd Thomas Pye. Daeth yn ofalwr y ty ac yn feistres iddo yn Tooting, Surrey. Roedd gan y cwpl o leiaf ddau o blant anghyfreithlon gyda'i gilydd, Thomas Pye Bennett a Harriet Pye Bennett. Daeth yr olaf yn actores enwog o dan yr enw Harriet Pye Esten (tua 1765-1865), gyda'i mam yn helpu i lansio ei gyrfa.
Gweithiau
golygu- Anna: or Memoirs of a Welch Heiress, 1785
- Juvenile Indiscretions, 1786
- Agnes de-Courci: a Domestic Tale, 1789
- Ellen, Countess of Castle Howel, 1794
- The Beggar Girl and he Benefactors, 1797
- De Valcourt, 1800
- Vicissitudes Abroad, 1806
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Encyclopedia of Romanticism, gol. Laura Dabundo (Routledge, 1992).
- Humphreys, Jennett. "'Bennett, Anna Maria (d. 1808)', rev. Rebecca Mills". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/2117.
- Humphreys, Jennett (1885). . In Stephen, Leslie (gol.). Dictionary of National Biography. 4. Llundain: Smith, Elder & Co.
Dolenni allanol
golygu- Ian Johnstone, Author Biography
- Online version of Agnes De-Courci