Operation Payback

Cyfres o ymosodiadau cyd-drefniedig ar wrthwynebwyr morladrad rhyngrwyd gan actifyddion rhyngrwyd yw Operation Payback. Mae'n enghraifft amlwg o'r cysyniad neu gymuned anffurfiol "Anonymous" ar y we. Cafodd ei greu gan ddefnyddwyr 4chan, cymuned arlein a drefnodd yr ymosodiadau Project Chanology gan Anonymous yn erbyn yr Eglwys Scientoleg.

Logo Operation Payback

Dechreuodd Operation Payback i daro'n ôl yn erbyn ymosodiadau DDoS ar wefannau torrent; penderfynodd y rhai o blaid "morladrad" lawnsio eu hymosodiadau DDoS eu hunain ar wrthwynebwyr morladrad. Tyfodd hynny yn don o ymosodiadau ar y prif sefydliadau o blaid hawlfraint ac yn erbyn morladrad rhyngrwyd, yn cynnwys gwefananu cwmniau cyfreithiol ac unigolion. Yn Rhagfyr 2010, yn sgîl rhyddhau'r dogfennau "Cablegate", trodd Operation Payback at lawnsio cyfres o ymosodiadau DDoS ar wefannau cwmniau a banciau a oedd wedi terfynnu eu contractau gyda WikiLeaks, dan bwysau o sawl cyfeiriad yn yr Unol Daleithiau.

Operation Avenge Assange

golygu

Cyfres o ymosodiadau DDoS anferth mewn ymateb i'r ymosodiadau ar WikiLeaks yn dilyn dechrau cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" ar 28 Tachwedd 2010 yw Operation Avenge Assange. Ar ddechrau Rhagfyr 2010, newidiodd Operation Payback ei ffocws i gefnogi WikiLeaks a lawnsiodd ymosodiadau DDoS yn erbyn PayPal, MasterCard, Visa a'r banc Swisaidd PostFinance, i dalu'r pwyth yn ôl am yr ymosodiadau ar WikiLeaks a'i brif olygydd Julian Assange.[1]

Targed[2] Gwefan[2] Amser yr ymosodiad[2]
PostFinance postfinance.ch 2010-12-06
Awdurdod Erledigaeth Sweden aklagare.se 2010-12-07
EveryDNS everydns.com 2010-12-07
Joseph Lieberman lieberman.senate.gov 2010-12-08
MasterCard mastercard.com 2010-12-08 10:30 UTC
Borgstrom a Bodström advbyra.se 2010-12-08
Visa visa.com 2010-12-08 21:00 UTC
Sarah Palin[3] sarahpac.com 2010-12-08
Paypal paypal.com 2010-12-09 02:50 UTC
Amazon[4] amazon.com 2010-12-09 (Aborted)[5]
Paypal api.paypal.com:443 2010-12-10 09:00 UTC
MoneyBookers www.moneybookers.com 2010-12-10

Cyfeiriadau

golygu