Newyddiadurwr a rhaglennydd meddalwedd Awstraliaidd yw Julian Assange (ganed 3 Gorffennaf 1971, Townsville, Queensland, Awstralia), sy'n gyfarwyddwr WikiLeaks, gwefan sy'n cyhoeddi gwybodaeth gudd.

Julian Assange
FfugenwProff, Mendax Edit this on Wikidata
GanwydJulian Paul Hawkins Edit this on Wikidata
3 Gorffennaf 1971 Edit this on Wikidata
Townsville Edit this on Wikidata
Man preswylEmbassy of Ecuador, London, Magnetic Island, Melbourne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Central Queensland University
  • Prifysgol Melbourne
  • Townsville State High School Edit this on Wikidata
GalwedigaethInternet activist, hacker, rhaglennwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, ysgrifennwr, newyddiadurwr, cyflwynydd, person busnes, Canu cloch, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolWikiLeaks Party, Annibynnwr Edit this on Wikidata
TadJohn Shipton Edit this on Wikidata
MamChristine Ann Assange Edit this on Wikidata
PriodStella Assange Edit this on Wikidata
Gwobr/auSam Adams Award, Gwobr Dewrder y Celfyddydau, Gold medal for Peace with Justice, Index Award, Martha Gellhorn Prize for Journalism, Stuttgart Peace Prize, Gwobr Heddwch Sydney, Walkley Awards, Günter Walraff award, Serena Shim Award, Ossietzky Prize, Premis Dignitat Edit this on Wikidata
llofnod

Sefydlodd Assange wefan WikiLeaks yn 2006 ac mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol y wefan. Fel prif lais cyhoeddus y wefan, mae Assange wedi cael sylw rhyngwladol, yn enwedig ar ôl i'r wefan gyhoeddi cyfres o ddogfennau milwrol Americanaidd am y rhyfeloedd yn Irac ac yn Affganistan, gan gynnwys gwybodaeth a roddwyd iddynt gan Chelsea Manning. Ers hynny ymchwiliodd Unol Daleithiau America i'w waith a chafwyd honiad gan ddwy ferch o Sweden yn ei erbyn. O ganlyniad, ers Mehefin 2012, mae wedi derbyn lloches wleidyddol yn Llysgenhadaeth Ecwador, gyda heddlu Lloegr yn cadw gwyliadwraeth ar yr adeilad.[1] Ar 19 Mai 2017, gollyngodd prif erlynydd Sweden y cyhoeddiadau yn ei erbyn.[2]

Ar 11 Ebrill 2019, tynnwyd lloches Assange yn ôl yn dilyn cyfres o anghydfodau gydag awdurdodau Ecwador. Gwahoddwyd yr heddlu i'r llysgenhadaeth yr un diwrnod, ac fe'i harestiwyd. Dedfrydwyd i 50 wythnos yn y carchar (allan o uchaf gosb o flwyddyn) am dorri mechnïaeth yn 2012, ac mae cyfreithiwr yn ceisio cael Sweden i ail agor ei ymchwiliad mewn i honiadau o drais rhywiol.[3]

Mae Assange wedi byw mewn sawl gwlad. Yn achlysurol, mae'n ysgrifennu am faterion sy'n ymwneud â rhyddid y wasg, sensoriaeth, a newyddiaduraeth ymchwiliol, ac mae wedi ennill sawl gwobr newyddiadurol.

Honiadau o droseddau rhyw

golygu

Ar 20 Awst 2010, agorwyd ymchwiliad cyfreithiol i Assange a chyhoeddwyd gwarant i'w arestio yn Sweden mewn cysylltiad â honiadau gan ddwy ferch, 26 a 31 oed, un yn Enköping a'r llall yn Stockholm. Yn fuan ar ôl agor yr ymchwiliad, dilëwyd y warant gan Eva Finné, prif erlynydd Sweden, gan ddweud "Dwi ddim yn meddwl fod achos i dybio ei fod yn euog o drais rhywiol." Parhaodd ymchwiliad i weld a oedd sail i gyhuddiad o "aflonyddu rhywiol", fel y'i diffinnir gan y gyfraith leol. Gwrthododd Assange yr honiadau yn ei erbyn. Dywedodd iddo gael rhyw trwy gydsyniad gyda'r ddwy ferch ond ni fu trais. Fel ei gefnogwyr, dywedodd fod y cyhuddiadau yn ddi-sail ac yn ymgais i bardduo ei enw. Cafodd gyfweliad un awr gyda'r heddlu Swedaidd ar 31 Awst, ac ar 1 Medi ail-agorwyd yr ymchwiliad gan, Marianne Ny, erlynydd Swedaidd, gan ddweud fod gwybodaeth newydd. Roedd hyn yn dilyn apêl gan Claes Borgström, cyfreithiwr y ddwy ferch a gwleidydd Swedaidd. Mae Assange ac eraill wedi dweud bod y cyhuddiadau yn ei erbyn yn "set-up" a drefnwyd gan elynion WikiLeaks.

Mae Assange wedi cytuno ar hyd y bedlan i wynebu'r llys yn Sweden, ar yr amod na fyddent yn ei estraddodi i'r Unol Daleithiau.

Ar ddiwedd mis Hydref, gwrthododd Sweden gais gan Assange i fyw yn Sweden a derbyn trwydded gwaith. Ar 4 Tachwedd, dywedodd Assange ei fod yn ystyried o ddifrif gwneud cais swyddogol am loches wleidyddol yn y Swistir. Ar 18 Tachwedd, caniataodd Llys Dosbarth Stockholm gais i ddal Assange i'w gwestiynu. Ar 20 Tachwedd, cyhoeddodd Heddlu Sweden warant ryngwladol i arestio Assange trwy Interpol; cyhoeddwyd Gwarant Arestio Ewropeaidd ar yr un pryd.

Ar 30 Tachwedd 2010, cyhoeddodd Interpol 'nodyn coch' yn erbyn Assange ar ran awdurdodau Sweden er mwyn ei gwestiynu am "droseddau rhyw" honedig, ar gais Sweden. Dywedodd cyfreithiwr ar ran Assange "It is highly irregular and unusual for the Swedish authorities to issue a red notice in the teeth of the undisputed fact that Mr Assange has agreed to meet voluntarily to answer the prosecutor's questions" (y tu allan i Sweden) ac ychwanegodd y byddai Assange yn brwydro yn erbyn unrhyw gais i'w gymryd i Sweden oherwydd y posibilrwydd y byddai hynny'n arwain at awdurdodau Sweden yn ei drosglwyddo i ddwylo'r Unol Daleithiau.

Cafodd Assange ei arestio yn Llundain gan Heddlu Metropolitanaidd Llundain ar 7 Rhagfyr trwy apwyntiad, ar ôl cyfarfod gwirfoddol gyda'r heddlu. Yn nes ymlaen ar yr un diwrnod, yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster, gwrthodwyd mechnïaeth i Assange a chafodd ei ddal 'ar remand' yng Ngharchar Wandsworth. Ar 14 Rhagfyr, yn dilyn apêl, rhoddwyd mechnïaeth iddo ond gan fod y termau'n cynnwys talu mechnïaeth o £200,000 i'r llys ni chafodd ei ryddhau ar unwaith. Erbyn diwedd y prynhawn roedd Erlyniaeth Sweden wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac felly daliwyd Assange i aros gwrandawiad arall i wrando'r apêl o fewn 48 awr. Cafodd ei ddwyn ymaith eto i Garchar Wandsworth. Ar 14 Rhagfyr, ar ôl y penderfyniad, dywedodd cyfreithiwr Assange, Mark Stephens, fod y broses gyfreithiol yn troi'n "show trial".

Gwrandawyd yr apêl yn erbyn rhyddhau Assange ar fechnïaeth yn yr Uchel Lys yn Llundain ar 16 Rhagfyr 2010. Roedd ansicrwydd ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am yr apêl, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu awdurdodau Sweden. Penderfynodd y barnwr wrthod yr apêl ond rhybuddiodd Assange ei bod bron yn sicr y byddai'n cael ei draddodi i Sweden. Bu'n rhaid i gefnogwyr Assange, yn cynnwys yr enillydd Gwobr Nobel John Sulston, dalu £200,000 mewn arian parod i'r llys gyda £40,000 arall ar ben hynny wedi'i gaddo; cyfanswm o £240,000. Gadawodd Assange y llys i fynd i siarad yn y Frontline Club ac oddi yno aeth i Ellingham Hall, Norfolk, cartref Vaughan Smith, llywydd y Frontline Club. Roedd termau'r fechnïaeth yn cynnwys ildio ei basbort, aros mewn man penodedig, dilyn curfew yno a gwisgo tagiau gwylio electronig. Disgrifiwyd hyn fel "house arrest" gan Assange a'i gefnogwyr. Ar Channel 4 News, dywedodd Assange ei fod yn darged "cynllwyn a drefnwyd gan yr Unol Daleithiau mewn cydweithrediad â gwasanaeth gwybodaeth gudd Sweden," gyda'r bwriad o'i estraddodi o Sweden i UDA i wynebu cael ei erlyn am ysbïo.[4]

Gwobrau

golygu
  • Gwobr The Economist Index on Censorship 2008.
  • Amnesty International Media Award (New Media) 2009.
  • Gwobr Sam Adams 2010.
  • Person y Flwyddyn Time 2010 (Dewis y Darllenwyr). Ar 13 Rhagfyr 2010, ac yntau'n dal dan glo mewn cell unigol yng Ngharchar Wandsworth, enwyd Julian Assange yn Ddewis y Darllenwyr ar gyfer Gwobr Person y Flwyddyn 2010 cylchgrawn Time. Roedd gan Assange 382,020 pleidlias, sef dwywaith y nifer o bleidleisiau a gafodd yr ail ymgeisydd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Andrew Hough, "Julian Assange: WikiLeaks founder seeks political asylum from Ecuador," The Daily Telegraph, 19 Mehefin 2012. Retrieved 18 Mawrth 2014.
  2. Reuters; awduron Simon Johnson a Michael Holden; adalwyd 19 Mai 2017.
  3. "Sweden considers reopening Assange rape case" (yn Saesneg). 2019-04-12. Cyrchwyd 2019-04-14.
  4. "Assange walks free after nine days in jail", The Guardian, 16.12.2010.

Dolenni allanol

golygu