Anrheg Nadolig
Mae'n arferiad yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd i roi anrheg Nadolig neu anrhegion i blant ac oedolion ar noswyl y Nadolig, gan ofyn i Siôn Corn eu dosbarthu. Fel arfer caiff yr anrheg ei lapio mewn papur arbennig wedi'i addurno gyda symbolau Nadoligaidd neu luniau o robin goch, Sion Corn, clychay, y Doethion neu olygfa o wlad dan eira. Yng Nghymru, rhoddir yr anrhegion naill ai gan Sion Corn neu yn bersonol, gyda'r 'rhoi' yn aml yn golygu ymweliad ag aelodau o'r teulu neu ffrindiau.
![]() Anrhegion Nadolig o dan y goeden | |
Enghraifft o'r canlynol | traddodiad Nadoligaidd ![]() |
---|---|
Math | Anrhegion Nadolig ![]() |
![]() |
Honnir mai yn un o wledydd y Baltig mae Siôn Corn (neu Santa Clos) yn byw. Dywedir hefyd ei fod yn briod i ferch o'r enw Siân a bod ganddo lawer o gorachod yn gweithio iddo, ac ambell garw i dynnu ei sled. Teithia o amgylch y byd ar noswyl Nadolig yn dosbarthu anrhegion i bobl. Mae ei sled yn cael ei dynnu gan nifer o geirw gwahanol ond efallai mai'r carw mwyaf adnabyddus yw Rwdolff, sydd â thrwyn coch sy'n goleuo er mwyn arwain Siôn Corn a gweddill y ceirw drwy'r noson dywyll.
Y rhoddwr
golyguMae'r traddodiad o 'roi' anrheg yn un Cristnogol ac o bosib yn draddodiad cyn-Gristnogol. Er enghraifft mewn llawer o'r gwledydd Slafaidd cyfeirir ar y 'Tad Barug' (Ded Moroz) ganrifoedd yn ôl ond yn wahanol i'r Siôn Corn gorllewinol, does dim byd cyfrinachol am ei ymweliadau, ac mae'n rhoi ei anrheg i'r person wyneb-yn-wyneb.