Antalya (talaith)

Lleolir talaith Antalya yn ne-orllewin Twrci rhwng Mynyddoedd Taurus a Môr y Canoldir, ac fe ffurfir rhan o ranbarth Akdeniz Bölgesi (Rhanbarth Môr y Canoldir). Mae ganddi boblogaeth o 1,919,719 (2009), a'i phrifddinas yw dinas Antalya.

Antalya
MathTaleithiau Twrci Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAntalya Edit this on Wikidata
PrifddinasAntalya Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,426,356, 2,418,651 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAntalya Subregion Edit this on Wikidata
SirTwrci Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd20,723 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37°N 31°E Edit this on Wikidata
Cod post07000–07999 Edit this on Wikidata
TR-07 Edit this on Wikidata
Map

Mae talaith Antalya yn cyfateb i diroedd hynafol Pamphylia yn y dwyrain a Lycia yn y gorllewin. Mae ganddi arfordir o 408 milltir (657 km) llawn traethau, porthladdoedd a dinasoedd hynafol, gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd yn Xanthos. Talaith Antalya ddangosodd y cynnydd poblogaeth uchaf yn Nhwrci yn ystod y 90au, gyda chynydd blynyddol o 4.17% yn ystod y cyfnod hwn, o gymharu a'r cymedr cenedlaethol o 1.83%. Achosir hyn gan gynydd uchel mewn trefoli, sydd yn cael ei achosi ran fwyaf gan dwristiaeth a'r sector gwasanaeth ar hyd yr arfordir.

Lleoliad talaith Antalya yn Nhwrci
Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.