Trefoli yw tyfiant ffisegol ardaloedd trefol o ganlyniad i boblogaethau yn mudo i'r ardal. Mae effeithiau hyn yn cynnwys newidiad mewn dwysedd poblogaeth a newid mewn gwasanaethau gweinyddol. Tra bo'r union diffiniad o drefoli yn amrywio o wlad i wlad, mae'n nodweddiadol o dyfiant dinasoedd. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn diffinio trefoli fel symudiad pobl o'r cefn gwlad i'r thref. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, roedd 52 y cant o bologaeth y byd yn byw mewn ardaloedd trefol yn 2011 a disgwylir hyn i gynyddu i 67 y cant erbyn 2050.[1]

Canol Dinas Toronto.
Llundain, prifddinas Lloegr a'r Deyrnas Unedig. Mae ganddi boblogaeth o tua 8 milliwn.

Rhesymau dros drefoli golygu

Mae trefoli yn digwydd yn naturiol pan mae pobl a chwmnïau yn ceisio lleihau amser a chostau cymudo a theithio tra'n gwella cyfleoedd ar gyfer swyddi, addysg, tai a chludiant. Mae byw o fewn dinas yn galluogi teuluoedd i gymryd mantais o'r agosrwydd, amrywiaeth a'r gystadleuaeth marchnata.

Mae pobl yn symud i'r dinasoedd i gyrchu cyfleoedd economaidd. Mae'n anodd cynnal ffermydd bach teuluol yng nghefn wlad, enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae byw ar fferm yn dibynnu ar amodau amgylcheddol annarogan, ac mewn sychder, llifogydd neu heintiau, mae goroesi yn broblem.

Ar y llaw arall mae dinasoedd yn lleoedd lle mae arian, gwasanaethau a chyfoeth wedi eu canoli. Mae dinasoedd lle mae'r economi yn dda ond yn bosib trwy mudoledd cymdeithasol. Mae busnesau lle creir swyddi ac arian wedi ei lleoli gan amlaf o fewn dinasoedd. Mae dinasoedd yn ffynhonnell masnachu, twristiaeth, a hefyd yr ardal lle mae arian tramor yn llifo i'r wlad. Mae'n amlwg pam bydd rhywun ar fferm yn cymryd mantais o'r cyfle i symud i'r ddinas.

Mae yna wasanaethau syml well yn ogystal â gwasanaethau arbennig sydd ond i'w gweld yn y ddinas. Mae yna fwy o gyfleoedd am swyddi ac mae yna mwy o amrywiaeth o swyddi. Mae iechyd yn brif ffactor arall. Mae pobl, enwedig y tlawd yn cael ei orfodi i symud i'r dinasoedd lle mae yna ddoctoriaid yn gallu darparu ar gyfer eu hanghenion. Mae ffactorau eraill yn cynnwys adloniant (tai bwyta, theatrau, parciau thema, ayyb) a gwell addysg (prifysgolion). Mae gan ardaloedd trefol gymunedau cymdeithasol amrywiaethol oherwydd y poblogaethau uchel sy'n galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd yn fwy na rhywun sydd yn byw yng nghefn gwlad.

Mae'r trefoli yma yn digwydd yn fwy yn ystod y newid o gymdeithas gyn-ddiwydiannol i gymdeithas ddiwydiannol. Mae newidiadau fel hyn yn rhoi nifer o weithwyr llafur allan o swyddi wrth i beiriannau gallu wneud eu swyddi.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) World Urbanization Prospects: The 2011 Revision Archifwyd 2014-09-04 yn y Peiriant Wayback.. Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Adran y Boblogaeth (Dinas Efrog Newydd, 2012), tud. 4. Adalwyd ar 12 Hydref 2012.